Adroddiad Llywodraeth Cymru wedi argymell cydweithio gyda’r Sefydliad i greu cronfa gynaliadwy

Adroddiad Llywodraeth Cymru wedi argymell cydweithio gyda’r Sefydliad i greu cronfa gynaliadwy

Dylai Llywodraeth Cymru a mudiadau celfyddydol weithio gyda’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru i greu modd ariannu mwy cadarn i’r sector, yn ôl adroddiad newydd.
Daw’r adroddiad ar ôl ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, dan arweiniad Bethan Sayed AC.

Ymhlith yr argymhellion, dywed yr adroddiad: “Rydym yn croesawu gwaith sefydliadau megis y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, a chredwn y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut mae’n gallu gweithio gyda grwpiau o’r fath i fynd i’r afael a’r diffygion a amlygwyd yn yr adroddiad hwn. Yn arbennig, drwy weithio gyda nhw, a rhanddeiliaid eraill ledled y sector celfyddydol, i edrych ar gyfleoedd i greu a hyrwyddo cronfa gynaliadwy ar y cyd.”

Mae’r adroddiad yn galw am ymgyrch i annog sefydliadau ac ymddiriedolaethau Prydeinig i godi’r gefnogaeth yng Nghymru ac am fwy o gefnogaeth i ddatblygu sgiliau codi arian yn y sector.

Mae Richard Williams, prif weithredwr y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, yn croesawu’r adroddiad.

Mae’r Sefydliad yn cefnogi nifer o fudiadau a grwpiau celfyddydol ac yn galluogi unigolion a sefydliadau hael i gefnogi gwaith cymunedol.

Meddai Richard: “Rydym ni yn gweithio gyda nifer o ymddiriedolaethau ar draws y Deyrnas Unedig yn barod sydd eisiau buddsoddi mewn gwaith yng Nghymru, ond rydym ni yn gwybod bod llawer mwy hefyd yn barod i wneud hynny efo dipyn o anogaeth a chefnogaeth. Rydym ni yn croesawu’r gefnogaeth i ddenu mwy o fuddsoddi i Gymru ac yn barod i gyd-weithio gyda Llywodraeth Cymru ac eraill i gyflawni hyn.

“Mae gan y Sefydliad arbenigaeth yn y maes yma drwy ein gwaith o annog rhoi dyngarol drwy unigolion a chyrff fel sefydliadau ac ymddiriedolaethau. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r Llywodraeth a’r gymuned gelfyddydol i ddatblygu a thyfu’r adnoddau sydd ar gael i ariannu gwaith creadigol mewn cymunedau ar hyd Cymru.”

Gellir darllen yr adroddiad cyfan yma.

News

View all

Over £1.3m awarded in grants to support Welsh communities through the cost of living crisis

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Making grants more accessible with Easy Read

Making grants more accessible with Easy Read