Pam y dylem fod yn gweithio gyda’n gilydd i ddenu mwy o gyllid i Gymru
Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, gyda chyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Sefydliad Pears, Sefydliad Moondance a rhoddwyr unigol, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiect i ddeall yn well gwneuthuriad sector elusennol Cymru a’r cyfleoedd sy’n bodoli yn ogystal â’r heriau sy’n ei wynebu i ddenu arian gan ymddiriedolaethau a sefydliadau tu allan i Gymru.
Yr wythnos hon, rydym wedi lansio adroddiad sy’n rhannu’r dysgu hwn, gan ddangos nad yw gwneuthuriad y trydydd sector yng Nghymru yn ffitio’n daclus i ddisgwyliadau a safonau ariannu’r mwyafrif o gyllidwyr elusennol.
Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos nad yw canran uchel o grwpiau Cymraeg sydd yn gweithio er budd eu cymunedau lleol yn gymwys am gyllid Ymddiriedolaeth a Sefydliadau, ac wrth edrych yn sydyn mae hynny’n wir. Ond mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar drydydd sector Cymru, gan eu hannog i feddwl yn wahanol am eu ffyrdd o weithio. Mae’n eu hannog i gofleidio gwaith partneriaeth a dod o hyd i ffyrdd o ychwanegu gwerth at eu gwaith eu hunain a gwaith eraill drwy gydnabod cryfderau a meysydd datblygu, rhannu sgiliau ac adnoddau a chydweithio a chyd-gynhyrchu.
Mae’r weledigaeth hon yn cyd-fynd â’r negeseuon yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) Llywodraeth Cymru, sy’n ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, ac atal problemau parhaus megis tlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid hinsawdd. Credwn y gall trydydd sector Cymru, ac yn wir y sector cyhoeddus a phreifat, ddod yn gryfach ac yn fwy gwydn drwy gydweithio fel hyn.
Nid yw’r sefyllfa yng Nghymru yn unigryw, mae’n cael ei adleisio mewn rhannau o Loegr, yn enwedig Gogledd Ddwyrain Lloegr, lle maen nhw’n ymgymryd â phrosiect tebyg. Felly, bydd cyrhaeddiad estynedig i’r dysgu hwn y tu hwnt i Gymru.
Byddwn yn rhannu’r dysgu o’r prosiect gyda ymddirediolaethau, sefydliadau a chyrff isadeiledd. Byddwn yn eu hannog i feddwl sut y gallant addasu a gwella eu cefnogaeth ac ystyried derbyn ceisiadau am bartneriaeth lle mae elusen gymwys yn arwain y ffordd a gefnogir gan eraill na fyddai fel arfer yn gymwys. Yn y pen draw bydd hyn yn cyflawni meini prawf y cyllidwr ond hefyd sicrhau cyrhaeddiad ehangach i gymunedau lleol ac amrywiol.
Mae’n deg dweud bod y dysgu o’r prosiect hwn wedi ein synnu. Doedden ni ddim yn disgwyl dod o hyd i’r ateb i’r cwestiwn oesol pam nad yw cyllid yn dod i mewn i Gymru sy’n cyfateb i wledydd eraill y DU, i fod yn ddiffyg ymochri o grŵpiau wedi’i sefydlu a meini prawf cymhwysedd. Fodd bynnag, ni ddylai hyn fod yn rhwystr i ddenu na ddosbarthu cyllid i Gymru nac yn rheswm i roi’r gorau i geisio – yn hytrach, mae’n golygu ei fod yn fwy o her i’w goresgyn.
Dim ond trwy gymryd cyfrifoldeb ar y cyd a meddwl yn wahanol am sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd, o safbwynt y rhai sy’n derbyn grantiau, gwneuthurwyr grant, a chyrff seilwaith, y byddwn yn dod o hyd i atebion a fydd yn sicrhau dosbarthiad mwy teg o gyllid ac yn galluogi cyllidwyr y DU i gyflawni eu nodau’n well yng Nghymru.
Gallwch ddarllen Adroddiad y Prosiect Ymddiriedolaeth a Sefydliadau yma.
Os ydych chi’n gweithio mewn Ymddiriedolaeth a Sefydliad ac eisiau dysgu mwy am y gwaith hwn ac ymuno â sgwrs am sut gallwch chi weithio’n wahanol i gefnogi grwpiau cymunedol ar lawr gwlad yng Nghymru, ymunwch â ni yn ein digwyddiad ‘Ymddiriedolaethau a Sefydliadau: Cydweithio i gryfhau digwyddiad trydydd sector Cymru’.
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru, gyda chefnogaeth eu partner RBC Brewin Dolphin, yn cynnal trafodaeth bord gron fel rhan o Wythnos Cymru Llundain ar 1 Mawrth, rhwng 12 a 2pm.
Yn y digwyddiad byddwch yn clywed mewnwelediadau o’r adroddiad ac yn ymuno â thrafodaeth bwrdd crwn sy’n cynnwys:
- Alun Evans – Sefydliad Cymunedol Cymru, Cadeirydd
- Paul Mathias – Brewin Dolphin, Cyfarwyddwr Cynorthwyol
- Ruth Marks – WCVA, Prif Weithredwr
- Carol Mack – ACF, Prif Weithredwr
- Flora Craig – Sefydliad Garfield Weston, Dirprwy Gyfarwyddwr
- Andrea Powell – Sefydliad Cymunedol Cymru, Cyfarwyddwr Rhaglenni.
Gallwch archebu eich lle yma.