Derek Howell
Ymddiriedolwr
Fy nghefndir
Wedi fy ngeni yng Nghaerdydd, lle rwy’n dal i fyw, graddiais gyda gradd mathemateg o Brifysgol Bryste ac ymunais â Price Waterhouse (PricewaterhouseCoopers yn ddiweddarach), lle cymhwysais fel cyfrifydd siartredig. Roedd fy ngyrfa gyda nhw yn bennaf mewn ailstrwythuro busnes. Ers ymddeol fel partner o PwC, rwyf wedi bod yn gyfarwyddwr anweithredol Cymdeithas Adeiladu’r Principality ac yn ymwneud â nifer o elusennau.
Beth rwy’n ei wneud
Rwy’n ymddiriedolwr Sefydliad Cymunedol Cymru ac yn eistedd ar y Pwyllgor Cyllid, Risg a Buddsoddi, yn ogystal â’r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu i’r Dyfodol.
Rwyf hefyd yn ymddiriedolwr Artes Mundi a Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Holwch fi ynghylch...
Sut y gall grantiau bach a rhoddion wneud gwahaniaeth mawr.
Pam rwy’n caru Cymru
Mae’r cyfan yn ymwneud â’r bobl, y lleoedd, yr angerdd ac, wrth gwrs, rygbi!