Cydlynydd Cyfathrebu a Marchnata
Closing date: 19th May 2025
Oriau: Rhan-amser – 25 awr yr wythnos
Contract: Parhaol
Cyflog: £25,000 pro rata
Dyddiad cau: 12pm ar dydd Llun 19 Mai 2025
Cyfweliadau: Dydd Mercher 4 Mehefin 2025
Rydyn ni’n chwilio am Gydlynydd Cyfathrebu a Marchnata i ymuno â’n tîm gwych – i helpu ni barhau i dyfu er mwyn ein galluogi i newid mwy o fywydau ledled Cymru.
Bydd y swydd newydd hon yn cefnogi datblygiad Sefydliad Cymunedol Cymru ac yn helpu i ddod a’n strategaeth cyfathrebu a marchnata’n fyw. Byddwch yn creu cynnwys deniadol ac yn dal straeon ysbrydoledig gan ein grantïon a rhoddwyr, gan arddangos effaith ein gwaith a chodi ymwybyddiaeth o’r Sefydliad.
Gan weithio’n agos gyda’n Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata, byddwch yn cynorthwyo i gynhyrchu cynnwys sy’n cysylltu â’n cynulleidfa. Byddwch hefyd yn cefnogi trefnu digwyddiadau a chyfarfodydd gyda’n rhanddeiliaid i helpu i dyfu a chryfhau ein cymuned o gefnogwyr.
Rydyn ni’n chwilio am rywun sy’n awyddus i gymryd cyfrifoldeb a datblygu ei sgiliau creadigol. Os ydych chi’n drefnus, yn rhagweithiol, ac yn mwynhau amrywiaeth yn eich gwaith, yna dyma’r swydd i chi.
Byddai’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yng Nghymraeg ac yn Saesneg yn ddefnyddiol, i helpu ni gyrraedd a chysylltu â chefnogwyr ledled Cymru.
Mae buddion yn cynnwys trefniadau gweithio hyblyg, cyfleoedd datblygiad proffesiynol, gweithgareddau llesiant misol, cynllun pensiwn cystadleuol a rhaglen cymorth gweithwyr sy’n ymestyn i deuluoedd.
Gallwch ddarganfod mwy amdanyn ni a’r rôl yn ein pecyn swydd ni isod.
I gefnogi’r gwaith o chwilio a phenodi ar gyfer y swydd hon, rydyn ni’n defnyddio gwasanaethau recriwtio Penodi.
I drafod yn anffurfiol, cysylltwch â thîm Penodi ar 07385 502078 neu helo@penodi.cymru.