Prosiectau sy’n helpu merched a genethod ar draws Cymru’n cael hwb ariannol mawr
Bydd 32 o grwpiau mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru sy’n gweithio i gefnogi merched a genethod yn wynebu gwahanol anawsterau yn cael hwb ariannol mewn grantiau gwerth £284,200.
Dyma ail rownd grantiau Cronfa Gymunedol Treth Tampon, sy’n cael eu rhannu gan Sefydliad Cymunedol Cymru ac sydd i helpu merched a genethod gyda phroblemau megis tlodi mislif, camdriniaeth ddomestig ac iechyd meddwl.
Bydd 32 o brosiectau ledled Cymru’n derbyn grantiau o rhwng £5,000 – £10,000 yr un. Rhai o’r prosiectau sy’n cael eu hariannu yw:
- Mae Aurora Trinity Collective yng Nghaerdydd wedi derbyn £7,605 i helpu menywod yn y gymuned leol, yn enwedig ffoaduriaid a cheiswyr lloches, i ddatblygu lles a hyder trwy ddysgu sgiliau newydd wrth greu gwisgoedd ac addasiadau ac atgyweiriadau i ddillad.
- Mae Ffrindiau Teulu i Blant 5 i 11 yn Wrecsam wedi derbyn £10,000 i ddarparu hyfforddiant a chwnsela i fenywod sydd wedi dioddef neu sy’n dioddef camdriniaeth.
- Ymddiriedolaeth y gofalwyr Crossroads Sir Gâr yn Sir Gaerfyrddin wedi derbyn £6,022 i gynnal gweithdai i fenywod sy’n ofalwyr i’w helpu gyda hyder a phroblemau iechyd meddwl
Cafodd Peak-Arts yn y Mynyddoedd Du arian gan Gronfa Gymunedol Treth Tampon y llynedd i redeg rhaglen hyfforddi yn y celfyddydau digidol yn y Fenni i ferched ifanc dan anfantais. Eleni, bydd yn cael £9,990 i adeiladu ar lwyddiant y prosiect hwnnw a hefyd i redeg gweithdai yn y celfyddydau digidol a pherfformio i 10 o ferched ifanc bregus yn ardal Torfaen, fel rhan o raglen ehangach Hinterlands Cymru mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd.
Meddai Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:
“Mae’r arian hwn yn hwb i grwpiau sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau merched a genethod mewn gwahanol ardaloedd ledled Cymru. Fe wyddom ni fod yna ofyn enfawr am y gwasanaethau hyn ac rydym ni’n falch o allu helpu sefydliadau bychain sy’n gweithio yn ein gwahanol gymunedau i gael cyfran o’r cyllid cyhoeddus sydd ar gael, na fydden nhw, fel arall, yn gallu ymgeisio amdano.
Dyma’r ail dro i Sefydliadau Cymunedol y DU gael eu dewis gan y llywodraeth i ddosbarthu trwy’i rwydwaith o sefydliadau cymunedol y rhan fwyaf o’r arian a godwyd trwy’r dreth ar gynnyrch mislif. Mae cyfanswm o £6.9 miliwn wedi’i ddyfarnu’n genedlaethol i grwpiau lleol yn y ddwy rownd o ddyfarnu arian.