Newidiadau i geisiadau grant

Y mis nesaf, bydd Sefydliad Cymunedol Cymru’n newid i system grantiau newydd.

Bydd y system newydd yn ein helpu i weithio’n fwy effeithlon ac yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach ymgeisio am grantiau.

Wrth i ni symud o’r hen system i’r system newydd ni fyddwn yn gallu derbyn ceisiadau NEWYDD am grant o’r 10fed o Fawrth 2020.

Byddwn yn dal i brosesu ceisiadau sydd eisoes wedi’u derbyn, sydd wedi’u cwblhau’n llawn a gyda’r holl ddogfennau cefnogi fel y gofynnwyd. Os na fyddwch chi wedi cyflwyno’ch dogfennau cefnogi erbyn haner nos ar 16 o Fawrth, bydd eich cais yn cael ei dynnu’n ôl a bydd yn rhaid i chi ail ymgeisio eto pan fydd y gronfa’n ail agor.

I allu gweithredu yn y cyfnod hwn o drosglwyddo, byddwn yn symud Dyddiad Cau rhai o’r cronfeydd a’r rhaglenni at nes ymlaen yn y flwyddyn er mwyn rhoi digon o amser i ni weithredu’r system newydd ac hyfforddi’r tîm cyn ail agor.

Yn ystod yr amser hwn, byddwn yn parhau i ddyfarnu grantiau i unigolion mewn argyfwng o Gronfa Rhyddhad Mewn Angen Harwarden a’r Cylch ac o’r Gronfa Caeredigrwydd. Os ydych chi’n gwneud cais am Grant Argyfwng, cysylltwch â’r tîm grantiau ar 029 2037 9580 neu e-bostiwch grants@communityfoundationwales.org.uk.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y byddwn yn derbyn ceisiadau newydd.

Byddwn yn gadael i chi wybod am y cynnydd a dyddiadau cau newydd trwy’n llythyrau newyddion misol yma.

News

View all
The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Randal Foundation supports 19 grassroots organisations across Wales

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

The Goodwash Company strengthens support for Welsh communities

We’ve launched our new Grants Hub!

We’ve launched our new Grants Hub!

£600,000 awarded to communities across Wales through Principality partnership

£600,000 awarded to communities across Wales through Principality partnership