Grwpiau trydydd sector yn gyrru neges uchel ac yn groch

Mae elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru yn galw i arianwyr flaenoriaethu darparu ariannu craidd a phartneriaethau mwy hirdymor.

Dyna’r neges gref, glir a ddaeth allan o sgwrs fawr Sefydliad Cymunedol Cymru gyda’r sector.

Cyfarfu tîm Sefydliad Cymunedol Cymru a dros 100 o grwpiau cymunedol ac elusennau i wrando a dysgu am eu heriau.

Cyhoeddir y darganfyddiadau yn yr adroddiad Yn Uchel ac yn Groch heddiw.

Mae grwpiau trydydd sector Cymru yn gweithio mewn sefyllfa o gryn sialens gyda diffyg ariannu o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau’r Deyrnas Gyfunol a thoriadau mewn arian cyhoeddus. Er bod y cyhoedd yng Nghymru yn hael, mae llawer yn byw ar gyflogau is na chyfartaledd y DG.

Gyda’r cefndir heriol hwn, clywodd Sefydliad Cymunedol Cymru mai’r ddau gam a fyddai yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf oedd mwy o ariannu craidd i alluogi grwpiau i gynnal a darparu gwasanaethau a phartneriaethau ariannu mwy hirdymor.

Dywedodd Richard Williams, prif weithredwr, Sefydliad Cymunedol Cymru:

“Mae’n bwysig ein bod ni’n deall pa un yw’r ffordd orau o sianelu ein cefnogaeth wrth gyflwyno grantiau ac adeiladu cysylltiadau. Drwy wrando ar grwpiau cymunedol ac elusennau ar hyd a lled Cymru, rydym ni wedi derbyn negeseuon clir iawn am y gefnogaeth sydd ei angen.

“Nid cronfa arloesi arall nac ariannu hael yn y tymor byr sydd ei angen. Y gwir angen ydi rhaglenni sydd yn ariannu yn y tymor hir ac sydd yn rhoi cefnogaeth i’w diben craidd i’w galluogi i weithio yn effeithio gyda’u cymunedau.

“Bydd y canfyddiadau hyn yn siapio sut rydym ni yn gweithio yn y dyfodol. Cynhaliwyd y sgyrsiau yma cyn i’r feirws gyrraedd. Heb amheuaeth, mae pethau wedi gwaethygu ers hynny gyda llawer o grwpiau yn ymladd er mwyn parhau. Mae’r negeseuon a glywsom yn fwy perthnasol nag erioed ac yn bwysig i’w rhannu.”

Gallwch lawrlwytho’r adroddiad yma.

News

View all

Over £1.3m awarded in grants to support Welsh communities through the cost of living crisis

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Community Foundation Wales achieves Cynnig Cymraeg status

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Trust, transparency, and the delicate balance of charitable giving

Making grants more accessible with Easy Read

Making grants more accessible with Easy Read