Sarah Corser
Ymddiriedolwr
Fy nghefndir
Daw fy nheulu i gyd o Sir Drefaldwyn ble treuliais i lawer o’m plentyndod. Ar ôl darllen Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd, cymhwysais yn gyfreithiwr yn 2000. Erbyn hyn rwy’n un o benaethiaid cwmni cyfreithiol cenedlaethol. Daeth fy ngwaith â mi i gysylltiad â llawer o deuluoedd sydd angen llawer i gefnogaeth ar ôl dioddef, weithiau, anafiadau enbyd. Rwyf hefyd wedi gweithio gyda nifer o elusennau i helpu cefnogi’r gwaith maen nhw’n ei wneud gydag unigolion sydd wedi dioddef anafiadau meddyliol neu gorfforol. Fe ymunais â Sefydliad Cymunedol Cymru yn 2020.
Yr hyn rwy'n ei wneud
Rwy’n un o Ymddiriedolwr Sefydliad Cymunedol Cymru ac yn eistedd ar ddau o bwyllgorau’r Sefydliad, ynghylch Grantiau a Risg Ariannol a Buddsoddi.
Holwch fi ynghylch...
Pa grantiau sydd ar gael a sut mae mynd atyn nhw, a hefyd sut y gall unigolion gefnogi gwaith a chodi arian ar gyfer y Sefydliad.
Pam rwy’n caru Cymru
Mae Cymru’n le arbennig iawn a, ble bynnag rwyf wedi teithio neu wedi byw, dyna lle mae adref bob amser. Mae ganddi gyfoeth o ddiwylliant a threftadaeth cyfoethog trwy’i hiaith, ei llenyddiaeth, ei chwaraeon a’i cherddoriaeth ac rwyf wrth fy modd yn dathlu popeth y maen nhw’n ei gynrychioli.
Sir Drefaldwyn yw fy nghornel i o Gymru, y tirwedd hardd o fryniau tonnog, caeau gwyrdd a threfi a phentrefi hyfryd gyda chymunedau sy’n gweithio gyda’i gilydd ac yn gofalu am ei gilydd. Rwy’n siŵr mai dyma’r berl o gyfrinach sydd yng nghalon Cymru!