Help llaw i 400 o fabolgampwyr
“Mae llawer o’r rhieni yn y gymuned yn aros am goffi a byrbryd gyda’u plant ar ôl y sesiynau ac maent wedi nodi pa mor hyfryd ydyw bod cyfleuster lleol ar gael lle y gall eu plant gael ymarfer corff tra eu bod nhw hefyd yn elwa ohono.”
Mae Clwb Gymnasteg Rhuthun a Dinbych yn cynnig darpariaeth eang o gymnasteg i ardal Dinbych, Rhuthun a’r cymunedau cyfagos, gan weithio gyda mwy na 400 o gymnastwyr. Dyfarnwyd grant o £1,000 i’r clwb i brynu cyfarpar er mwyn gallu cynnal sesiynau gymnasteg i rieni a babanod a sesiynau i blant cyn-ysgol hefyd.
Mae’r grant wedi cyfrannu at waith Clwb Gymnasteg Rhuthun a Dinbych i wireddu ei weledigaeth, sef agor cyfleuster gymnasteg newydd yn Ninbych. Mae’r ddau floc a’r grisiau, a brynwyd gyda’r arian, wedi cael eu defnyddio bob dydd ers i’r ganolfan agor ym mis Medi.
Cynhelir sesiynau i fabanod/plant cyn-ysgol ddwywaith yr wythnos, lle mae rhieni a neiniau a theidiau yn cyfarfod i gymdeithasu tra bod eu plant yn dysgu drwy ‘chwarae’ gymnasteg.
Cynhelir y sesiynau hyn yn ddwyieithog, a gwelwyd datblygiad anferth yn sgiliau echddygol bras, llythrennedd a rhifedd y plant drwy ganu, dilyn cyfarwyddiadau a gofyn cwestiynau perthnasol.
Maent hefyd wedi gallu agor canolfan ar gyfer gymnasteg i’r anabl ac wedi helpu plant ac oedolion ifanc lleol sydd ag anableddau ysgafn i anableddau difrifol i ddefnyddio’r amgylchedd arbenigol hwn, ei fwynhau ac elwa ohono.