Eich cefnogaeth chi sydd wedi fy helpu i gyrraedd fy mhotensial
“Y gefnogaeth gan Gronfa Goffa Thomas Jones dros y tair blynedd diwethaf sydd wedi fy helpu i gyrraedd fy mhotensial yn fy astudiaethau, a hynny mewn rhai amgylchiadau heriol iawn oherwydd Covid-19.
Rwyf wrth fy modd fy mod wedi graddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn BEng Technoleg Chwaraeon o Brifysgol Loughborough. Ar ben hynny, cefais farc o 90% am fy nhraethawd blwyddyn olaf, yn ogystal â thair gwobr ychwanegol amdano gan y brifysgol yn y seremoni raddio.
I Gefnogaeth Cronfa Goffa TJ Jones a Sefydliad Cymunedol Cymru y mae, i raddau helaeth iawn, y diolch am hyn. Rwy’n gobeithio bod fy llwyddiant yn adlewyrchu’r gefnogaeth ac y bydd hanesion fel hyn yn dal i lifo i’ch mewnflwch yn y dyfodol!
Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i chi am y gefnogaeth.”
Stories
Investing in people, skills and heritage: supporting the next generation of Welsh craftspeople
Three individuals from Wales were awarded bursaries to develop specialist skills in blacksmithing, millinery and woodworking, which is helping to safeguard craft traditions while opening up new pathways for people facing significant barriers to training and employment.