Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies

Ceredigion, I gyd, a Sir Gar

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Mae'r gronfa hon ar gau ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau
Byddem hefyd yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau.

 

 

Mae Cronfa Waddol Dr Dewi Davies yn rhoi cymorth i’r canlynol:

  • Grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael â thlodi ac ynysu gan gynnwys tlodi tanwydd a phroblemau gwledig
  • Prosiectau sy’n gweithio gyda’r genhedlaeth hŷn i leihau unigrwydd
  • Grwpiau a sefydliadau sy’n cefnogi’r gwaith o hyrwyddo a dysgu’r Iaith Gymraeg, Diwylliant Cymreig a Threftadaeth Gymreig
  • Magu hyder ac ehangu gorwelion unigolion nad oes ganddynt lawer o adnoddau
  • Unigolion talentog er mwyn iddynt ddilyn eu dyheadau e.e. bwrsariaethau, cyfarpar, offerynnau

Y grantiau sydd ar gael

  • Gall unigolion, grwpiau cymunedol, elusennau a phrosiectau lleol wneud cais am grantiau rhwng £500 a £5,000

Lle y ceir achos eithriadol ar gyfer cymorth, gellir dyfarnu grantiau o hyd at £10,000.

Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Darllenwch drwy’r adrannau ar y Pecyn Cymorth Grantiau cyn gwneud cais  – Grants Toolkit – Community Foundation Wales

 

Pwy all wneud cais?

Unigolion, grwpiau a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl sy’n byw yn yr Ardaloedd Allbwn Uwch (LSOAs) haen isaf fel y’u gelwir yn fwy cyffredin:

Yn Sir Gaerfyrddin

  • Cenarth
  • Cynwyl Elfed 1
  • Llanfihangel ar Arth 1 a 2
  • Llangeler
  • Llanybydder 1 a 2

Yng Ngheredigion

  • Aberporth 1 a 2
  • Beulah
  • Capel Dewi
  • Aberteifi Mwldan
  • Aberteifi Rhyd y Fuwch
  • Aberteifi Teifi, Llandyfriog
  • Tref Llandysul
  • Llanwenog
  • Penbryn, Pen-parc 1 a 2
  • Troedyraur

Mae’r gronfa’n cynnwys Trefi Aberteifi – Aberporth, Newcastle Emlyn, Llandysul a Llanybydder ynghyd â’r pentrefi cyfagos.

Sut i wneud cais?

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.

Cofiwch:

  • ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau
  • nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill
  • rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig
  • rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Read More
Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies
Cronfa Gwaddol Dr Dewi Davies

Pryd o fwyd gyda cyfeillion yn yr eglwys

Darllen mwy

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa True Venture

Conwy, Gogledd Cymru, Gwynedd

Cronfa Effaith Cynnal

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – cronfa costau byw

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg