Osian Prys Elis

Ymddiriedolwyr

Osian Prys Elis

Fy nghefndir

Yn wreiddiol o Abergele yng ngogledd Cymru, astudiais ym Mhrifysgol Rhydychen, ble cwblheais raddau israddedig ac ôl-radd mewn Hanes yng Ngholeg yr Iesu a Choleg Corpus Christi. Ar ôl graddio yn 2021, dychwelais adref i ogledd Cymru i ymuno â chynllun graddedig llywodraeth leol gyda Chyngor Gwynedd, law-yn-llaw â chwblhau gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus (MPA) ym Mhrifysgol Efrog gyda Rhagoriaeth, yn ogystal ag Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Ar ôl gweithio yn flaenorol yng Nghyngor Gwynedd, lle cefais gyfle i gefnogi llywodraethu gweithredol uwch ac arwain ar raglenni a strategaeth datblygu economaidd, rwyf bellach yn gweithio fel Arweinydd Polisi ac Effaith Rhanbarthol yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, gan ganolbwyntio ar gynhyrchiant a chynhwysiant economaidd. Rwy’n angerddol dros ehangu mynediad at gyfleoedd yng Nghymru a gwella sefyllfa anghydraddoldeb rhyngranbarthol.

Yr hyn rwy'n ei wneud

Fel Ymddiriedolwr i Sefydliad Cymunedol Cymru, ‘dw i’n edrych ymlaen yn fawr at gael cefnogi’r gwaith gwerthfawr y mae’r Sefydliad yn ei wneud ledled Cymru, hynny gyda’m cyd-aelodau Bwrdd a swyddogion rhagorol yr elusen.

Holwch fi ynghylch...

Sut y gall y Sefydliad eich cefnogi chi a’ch sefydliad, a sut gallwch chi gefnogi gwaith pwysig y Sefydliad ledled Cymru.

Pam rwy'n caru Cymru

Dychwelais i fyw a gweithio yng Nghymru ar ôl graddio am fy mod yn caru Cymru gymaint – yn caru ei phobl a’i chymunedau, ei hamgylchedd naturiol eithriadol, a’i hanes a’i diwylliant cyfoethog. Ac fel siaradwr Cymraeg, mae cael byw mewn gwlad ddwyieithog a mwynhau cyfoeth diwylliannol ein dwy iaith yn wirioneddol arbennig.

Trustees

View all
Neil Moss

Neil Moss

Trustee

Judi Rhys MBE

Judi Rhys MBE

Chair

Andrew Tuggey CBE DL

Andrew Tuggey CBE DL

Trustee

Emma Beynon

Emma Beynon

Trustee