Cyngor Sir y Fflint

Karen Armstrong, Corporate Business and Communications Executive Officer

Cyngor Sir y Fflint

“Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn gweithio gyda’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ers 2014. Rydym wedi datblygu cydberthynas gref ac adeiladol sydd wedi’i gwneud yn bosibl i gronfeydd ymddiriedolaeth blaenorol nad oeddent yn cael eu defnyddio gael eu hadfer a’u cynnig er budd prosiectau cymunedol unwaith eto.

Ers i’r Sefydliad gysylltu â ni gyntaf rhoddwyd canllawiau a chyngor da i ni ar sut y gellid trosglwyddo’r ‘hen’ gronfeydd ymddiriedolaeth hyn i’r Sefydliad Cymunedol drwy ymwneud â’r Comisiwn Elusennol, wrth ddiogelu gwerth gwreiddiol yr ased a chynyddu’r gronfa drwy fuddsoddiadau.

Bu’n bosibl i grwpiau cymunedol lleol ac unigolion gael cymorth ariannol ar gyfer llawer o gyraeddiadau neu brosiectau addysgol. Mae’r Sefydliad yn ceisio adborth gan yr unigolion a’r grwpiau, sy’n darparu tystiolaeth gref o’r hyn sydd wedi’i gyflawni â chyfraniadau grant cymharol fach. Mae cyflwyniad blynyddol i’r Aelodau yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu perthnasol yn cynnal y cyswllt lleol cryf hwn ac mae proffesiynoldeb y sefydliad wedi gwneud argraff ar aelodau’r Cyngor.

Mae’r ffaith bod yr aelodau yn cymryd rhan yn y broses o ddosbarthu grantiau ac yn cael adroddiadau blynyddol gan y sefydliad yn helpu i sicrhau ymdeimlad o berchenogaeth leol.

Hefyd, yn ddiweddar cymeradwyodd y Cyngor y cynnig i drosglwyddo’r cyfrifoldeb am weinyddu a rheoli Cronfa Deddfau Eglwysi Cymru, yr ymdrinnir â hi mewn ffordd debyg, ac edrychwn ymlaen at gynnal a thyfu’r gydberthynas gadarnhaol a ddatblygwyd hyd yma, wrth sicrhau buddiannau i grwpiau cymunedol ac unigolion yn y Sir.”

Testimonials

The Waterloo Foundation

The Waterloo Foundation

Anna Rees, Rheolwr Cronfa Cymru

Sefydliad Steve Morgan

Sefydliad Steve Morgan

Liam Eaglestone, Prif Swyddog Gweithredol Sefydliad Steve Morgan

Michael Sheen

Michael Sheen

Henry John Randall Trust

Henry John Randall Trust

Roger Norfolk, Ymddiriedolwr