Cronfa Caryl & Henry Bettws (Casnewydd)

Casnewydd, a I gyd

Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau

Rydym yn argymell eich bod yn cofrestru i dderbyn ein Cylchlythyr Grantiau i gael y gwybodaeth am grantiau eraill sydd ar gael i chi.

Mae Cronfa Caryl a Henry Bettws yn ceisio cefnogi prosiectau a gweithgareddau iechyd a lles cymunedol ym mhlwyf Betws, Casnewydd. Bydd y gronfa yn blaenoriaethu grwpiau a phrosiectau sy’n mynd i’r afael â’r themâu canlynol:

  • Prosiectau sy’n hyrwyddo ymgysylltiad cadarnhaol teuluoedd a phobl ifanc.
  • Prosiectau i leihau unigedd pobl hŷn, yn enwedig y rhai sy’n cael trafferth gydag effeithiau dementia.
  • Syniadau digwyddiadau cymunedol i ddathlu datblygiad cymdeithasol a diwylliannol.

Grantiau ar gael

Byddwn yn gwahodd grwpiau/sefydliadau i wneud cais o ardal Betws, gyda’r nod o ariannu o leiaf 9 sefydliad gyda grant o £2,000.

Pwy all wneud cais?

Mae’r mathau canlynol o grŵp/sefydliadau, gydag incwm blynyddol o hyd at £500,000, yn gymwys i wneud cais:

  • Grwpiau cymunedol elusennol nad ydynt wedi’u cofrestru.  
  • Cwmnïau cyfyngedig nid er elw.
  • Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol. 
  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol.  
  • Mentrau Cymdeithasol.  
  • Sefydliadau cenedlaethol sydd â changen sy’n gweithio o fewn Betws (e.e. Sgowtiaid).
  • Ysgolion a darparwyr addysg, cyn belled â bod y cyllid ar gyfer gweithgaredd nad yw fel arfer yn dod o dan bennawd darpariaeth statudol.

Sut i wneud cais?

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan.

Cofiwch:

  • ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a dychwelyd yr amodau a thelerau.
  • nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill.
  • rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig.
  • rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cliciwch yma
Cronfa Caryl & Henry Bettws (Casnewydd)

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Cronfa’r Teulu Brown

Caerdydd, De Cymru a I gyd

Cronfeydd Sir y Fflint – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint