Swyddi Gwag
Nid oes gennym ddim swyddi gwag ar hyn o bryd.
Gweithio yn Sefydliad Cymunedol Cymru
Rydyn ni yma yn Sefydliad Cymunedol Cymru yn credu fod prosiectau lleol yn gallu newid bywydau.
Rydyn ni’n gweithio gyda grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Cymru, yn cymryd trafferth i ddeall beth maen nhw’n ceisio ei gyflawni ac yn eu cefnogi i wneud hynny drwy ddyfarnu grantiau ar ran ein rhoddwyr.
Rydyn ni’n falch iawn o fod yn sefydliad y mae gwerthoedd yn ei arwain ac rydyn ni’n chwilio am bobl dalentog ac ymroddgar sy’n adlewyrchu ein gwerthoedd:
- Rydyn ni’n bartneriaid da
- Mae ots gennym ni am y bobl rydyn ni’n yn gweithio gyda nhw
- Rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth
Yn gyfnewid am eich angerdd a’ch ymrwymiad, gallwn gynnig amgylchedd waith a fydd yn eich helpu i dyfu a datblygu, yn ogystal â chyrraedd cydbwysedd gwaith-bywyd da.
Mae gennym ni becyn gwyliau hael o 25 diwrnod o wyliau’r flwyddyn, yn ogystal ag 8 gŵyl y banc a thri diwrnod ychwanegol o wyliau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Mae gennym ni bolisïau cyfeillgar i deuluoedd, rydyn ni’n annog gweithio’n hyblyg ac yn cynnig mentrau llesiant megis sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar wythnosol.
Rydyn ni hefyd yn cynnig y buddion canlynol:
- Pensiwn cystadleuol
- Cynllun beicio i’r gwaith
- Prawf llygaid am ddim
- Hyfforddiant a Datblygu / datblygu proffesiynol
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, rydym bob amser yn chwilio am bobl frwdfrydig, sy’n ymrwymedig i gyfrannu at ein gwaith, felly cysylltwch â ni yn info@communityfoundationwales.org.uk
Dod yn ymddiriedolwr
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru bob amser yn edrych am ymddiriedolwyr/wragedd i ymuno a’r bwrdd.
Darganfyddwch fwy