Cyngor defnyddiol ar gyfer gwneud ceisiadau am grantiau

Rydym wedi creu fideo sy'n cynnwys cyngor ac awgrymiadau defnyddiol i ysgrifennu ceisiadau am grant – Ydy chi wedi’i wylio eto?

Ymgeisio am grant

Pan fyddwch wedi dod o hyd i grant y credwch sy’n cyd-fynd â’ch prosiect, bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais a’i dychwelyd erbyn y dyddiad cau a bennir. Mae gan bob cronfa ei meini prawf unigol ei hun a fydd yn esbonio nodau’r gronfa, pwy sy’n gallu gwneud cais ac am beth y gallwch wneud cais, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen hyn yn ofalus cyn i chi fwrw ymlaen â’ch cais.

Mae llywodraethu yn bwysig iawn, gan ein bod yn edrych ar y sefydliad gymaint ag ydym yn edrych ar y prosiect. Mae’r dogfennau llywodraethu yn cynnwys y wybodaeth graidd am eich sefydliad ac ni chaiff grant ei ddyfarnu os bydd y sefydliad yn peri risg o ran rheoli cyllid a/neu bobl yn wael. Sicrhewch fod y dogfennau hyn mewn trefn a’u cynnwys gyda’ch cais bob amser erbyn y dyddiad cau a bennir.

Noder:

  • Rhaid i geisiadau fod ar gyfer cyfanswm costau’r prosiect neu ar gyfer y mwyafrif sylweddol o’r costau.
  • Ni chaiff grantiau eu dyfarnu os bydd y gwaith eisoes wedi’i gyflawni cyn cael y llythyr yn cynnig y grant a chael y telerau a’r amodau wedi’u llofnodi.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Want to know what happens once you have submitted your application? Check out our timeline explaining the process your grant application goes through.

Darllen mwy

Angen ychydig yn fwy o gymorth?

Cysylltwch â’n tîm grantiau ar 02920 379 580 neu llenwch y ffurflen isod: