Rhoi
Hoffech chi gefnogi pobl a chymunedau yng Nghymru?
Hoffech chi sicrhau bod y gefnogaeth honno yn un ystyrlon, mynd i wraidd materion cymdeithasol a dod o hyd i atebion sy’n gynaliadwy?
Hoffech chi fod yn rhan o’r daith honno, gweld y newid, helpu i gyfeirio rhoddion i’r mannau y mae eu hangen fwyaf?
Dyna yn union beth rydym yn ei wneud.
Sut i rhoi
Gallwch chi roi yn uniongyrchol i Sefydliad Cymunedol Cymru trwy ddefnyddio’r botwm Rhoi Nawr ar frig y dudalen. Os ydych chi’n drethdalwr yn y DU, mae Cymorth Rhodd yn gwneud eich rhodd yn fwy gwerthfawr i ni.
Efallai yr hoffech chi ddod yn un o Gyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru, sefydlu cronfa gyda ni, neu adael gwaddol er budd cymunedau Cymru.
Efallai eich bod yn meddwl sut i gynllunio a datblygu rhodd elusennol eich sefydliad, neu sut i dyfu eich cronfeydd elusennol. Gallwn helpu gyda’n dau trwy ein cronfeydd corfforaethol ac asiantaethau.
Please select from the options below:
Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd
Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – Apêl Argyfwng Costau Byw a fydd yn cefnogi elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i helpu’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw.
Rhoi nawr
Cronfa Croeso Cenedl Noddfa
Bydd Cronfa Croeso Cenedl Noddfa yn darparu cefnogaeth hanfodol i bobl sy’n dianc o wrthdaro ac yn chwilio am noddfa yng Nghymru.
Rhoi nawr
Rhoi treth effeithiol
Os ydych chi’n drethdalwr neu’n fusnes yn y DU, mae yna nifer o opsiynau i’w i chi rhoi mewn ffordd dreth effeithlonsy’n effeithiol o ran treth. Gall rhoddwyr wneud y gorau o’u rhoddion trwy fanteisio ar gymhellion treth sydd wedi’u cynllunio i annog rhoi mwy o elusennauelusennol.
Darllen mwy
Pam cefnogi ni?
Cewch glywed gan ein partneriaid a deiliaid cronfeydd pam eu bod yn cefnogi Sefydliad Cymunedol Cymru.
Darllen mwy
Cyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru
Gweld pwy sydd eisoes wedi ymuno â’n rhwydwaith.
Cwrdd â’n ffrindiau
Cylchlythyr Cefnogwyr
Darllenwch y rhifyn diweddaraf o’n cylchlythyr cefnogwyr yma.
Darllen mwy
