Rhodd drwy ewyllus

Mae llawer o bobl yn ystyried gadael arian i elusen wrth wneud eu hewyllys. Gallai hyn fod yn rhodd o swm penodol o arian i elusen arbennig neu sefydlu rywbeth mwy hir dymor a fyddai’n galluogi’r person sy’n gadael y rhodd i bennu sut, ble ac ar beth y dylid gwario’r rhodd.

Byddai gadael rhodd trwy Sefydliad Cymunedol Cymru yn eich ewyllys, fel etifeddiaeth pan ydych yn fyw neu ar ôl i chi farw, yn sicrhau y bydd yr arian y byddwch yn ei roi yn mynd yn uniongyrchol i gymunedau Cymru. Gallwn ni eich helpu i benderfynu pa un yw’r dewis gorau i chi a’ch helpu i wireddu dymuniadau eich etifeddiaeth.

Gallwn weithio gyda chi i baratoi cynllun ar gyfer gadael rhodd yn eich ewyllys a fydd yn addas ar gyfer eich dymuniadau chi. Gallai hynny fod yn sefydlu cronfa yn cael ei chynghori gan y rhoddwr ar gyfer diben penodol mewn ardal o’ch dewis chi neu, os hoffech chi roi rhodd fwy cyffredinol, gadael rhodd sy’n cefnogi prosiectau cymunedol ledled Cymru.

Two women smiling at the camera

Manteision treth o adael rhodd yn eich ewyllys

Byddwch yn gadael etifeddiaeth elusennol pan fyddwch chi’n rhoi rhan neu’r cyfan o’ch ystâd i elusen yn eich ewyllys.

Drwy wneud hynny, byddwch nid yn unig yn helpu i gynnal gwaith arbennig yr elusen honno, ond byddwch hefyd yn talu llai o dreth etifeddiaeth ar eich ystâd. Nid yw’r arian y byddwch yn ei adael i elusen yn ffurfio rhan o werth trethiannol eich ystâd.

Hefyd, os byddwch yn gadael o leiaf 10% o’ch ‘ystâd net’ i elusen, bydd y Dreth Etifeddiaeth ar weddill eich ystâd yn gostwng o 40% i 36%.

Mae'r fideo isod yn esbonio mwy am sut mae hyn yn gweithio:

Mae’n werth ystyried etifeddiaeth elusennol os ydych chi’n awyddus i gefnogi elusen, hyd yn oed ar ôl i chi farw.

I ddangos sut y gallai hyn weithio, cliciwch yma.

Nid yw’r rheolau ynghylch sut i weithio allan beth allwch chi ei adael i elusen i gael y gyfradd dreth is mor syml bob amser â’n henghraifft syml uchod. Dyna pam ei bod yn syniad da cael cyngor gan gyfreithiwr neu gyfrifydd sy’n arbenigo mewn cynllunio ystadau.

Pam y dylech chi wneud eich ewyllys

Nid yw ewyllysiau’n rhywbeth y mae llawr o bobl yn meddwl amdanyn nhw ac maen nhw’n cael eu cysylltu’n aml â phobl hŷn. Dangosodd ymchwil diweddar nad yw 5.4 miliwn o oedolion yn gwybod ble i ddechrau ysgrifennu ewyllys ac nad oes gan tua 54% o oedolion ewyllys.

Mae cael ewyllys yn ei gwneud yn llawer haws i chi neu’ch ffrindiau drefnu pethau ar ôl i chi farw. Heb ewyllys, bydd eich holl eiddo’n cael ei rannu mewn trefn benodol yn ôl y gyfraith a allai fod, neu efallai nad yw, beth oeddech chi ei eisiau.

Mae ewyllys yn hynod o bwysig os oes gennych chi blant neu deulu arall sy’n ddibynnol arnoch chi’n ariannol, neu os ydych chi eisiau gadael rhywbeth i bobl y tu allan i’ch teulu agosaf. Credir nad oes gan chwech o bob deg (59%) o rieni ewyllys, neu fod yr un sydd ganddyn nhw wedi dyddio. Mae hyn yn rhywbeth i chi ei ystyried os oes gennych chi ddymuniadau penodol ar gyfer y rhai sy’n dibynnu arnoch chi ar ôl i chi farw.

Rhodd drwy ewyllus
Rhodd drwy ewyllus

Sefydliad Cymunedol Cymru a Beyond

Gallai newidiadau bychan i’ch ewyllys drawsnewid bywydau a chymunedau ledled y wlad.

Darganfyddwch fwy

Eisiau gwybod mwy?

 

Galwch Katy Hales, Cyfarwyddwr Dyngarol, ar 02920 379580 neu drwy lenwi y ffurflen islaw

Please enable JavaScript in your browser to complete this form.
Enw