Sefydlu cronfa
Drwy gefnogi’r Sefydliad Cymunedol Cymru, rydych yn helpu pobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru. Rydych yn cefnogi pobl sy’n arwain newid yn ein cymunedau, gan eu helpu i ffynnu.
Y llynedd, gwnaethom ariannu 400 o bobl ac unigolion ar hyd a lled Cymru. Gallwch ein helpu i wneud mwy.
Drwy ymuno â ni, byddwch yn rhan o fudiad sy’n cysylltu dyngarwyr a phobl hael ar hyd a lled Cymru â’u cymunedau, a galluogi newid cadarnhaol.
Gallwn weithio gyda chi i baru eich rhoddion â’r achosion rydych yn teimlo’n angerddol drostynt, gan sicrhau eich bod yn cael yr effaith fwyaf posibl yn yr ardaloedd sydd bwysicaf i chi.
Sut y byddwn yn gweithio gyda chi
Gallwn eich cefnogi chi a’ch teulu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned a rhoi mewn ffordd sy’n gweithio i chi.
P’un a hoffech gael effaith ar unwaith ar fater penodol, neu gefnogi eich cymuned am flynyddoedd i ddod, gallwn ddatblygu cynllun rhoi i elusennau sy’n diwallu eich anghenion a’ch nodau dyngarol.
Gyda’n gwybodaeth arbenigol am gymunedau yng Nghymru, gallwn baru eich rhoddion â’r achosion rydych yn frwd drostynt, gan sicrhau eich bod yn cael yr effaith fwyaf posibl yn yr ardaloedd sy’n bwysig i chi.
Gallwn wneud y canlynol:
- Gweithio gyda chi i bennu beth sy’n bwysig i chi a phenderfynu p’un a hoffech roi i amrywiaeth eang o achosion neu ganolbwyntio ar fater neu ardal ddaearyddol benodol.
- Eich helpu i benderfynu rhwng cael effaith ar unwaith a gwneud ymrwymiad hirdymor, a datblygu cynllun rhoi i elusennau yn unol â hynny.
- Defnyddio ein gwybodaeth arbenigol am y sector gwirfoddol i ddod o hyd i’r prosiectau sy’n cyfateb â’ch diddordebau.
- Eich cynnwys mewn penderfyniadau ynglŷn â chyllid.
- Trefnu ymweliadau rheolaidd â phrosiectau fel y gallwch weld y gwahaniaeth y mae eich rhoddion yn ei wneud drosoch eich hun.
- Mesur effaith eich rhoddion drwy ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am bob prosiect a ariennir ac adroddiad ehangach ar ddiwedd pob cylch ariannu.
Mae eich rhodd yn cyfrif, p’un a yw’n £5 neu £50,000 neu fwy.
Creu cronfa o dan reolaeth y rhoddwr
Mae rhoi arian i elusen yn ymddangos fel rhywbeth sy’n hawdd i’w wneud, ond gyda mwy na 30,000 o elusennau cofrestredig a miloedd o grwpiau cymunedol hefyd yng Nghymru, gall fod yn anodd gwybod ble i ddechrau ac i bwy y dylech roi.
Dyma ble y gall y Sefydliad Cymunedol Cymru eich helpu.
Bydd rhoi drwom ni yn eich galluogi i ganolbwyntio ar sut a ble yr hoffech roi.
P’un a hoffech roi arian i gael effaith ar unwaith neu sefydlu cymynrodd hirdymor, bydd sefydlu cronfa o dan reolaeth y rhoddwr yn eich helpu i sianelu eich rhoddion i’r hyn sy’n bwysig i chi a chreu newid cynaliadwy.
Mae cronfa o dan reolaeth y rhoddwr yn ddull amgen o sefydlu ymddiriedolaeth elusennol, sy’n cynnig buddiannau ymddiriedolaeth breifat heb faich llywodraethu, diwydrwydd dyladwy a chynhyrchu adroddiadau ariannol.
Gyda chyngor gan ein harbenigwyr ym maes cyllid, rhoi i elusennau a rheoli grantiau, gallwch greu cronfa o dan reolaeth y rhoddwr sy’n darparu strwythur wedi’i deilwra i chi er mwyn cefnogi eich rhoddion. Bydd y dull hwn o weithredu yn sicrhau y caiff eich dyngarwch ei lywio’n bersonol yn ôl yr hyn sy’n bwysig i chi.
Gallwn gynnig yr opsiwn hwn ar gyfer lefelau cyllid sydd dros £50,000.
Gwnewch i’ch rhodd roi ymhellach!
Bydd £ yn cael ei adennill gan yr elusen drwy gymorth rhodd
Gallech chi hawlio £ yn ôl gan Dollau a Threthi Ei Mawrhydi
£ yw cyfanswm y cyfraniad a dderbyniwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru
£ yw cyfanswm costau eich rhodd
Gallech chi hawlio £ yn ôl gan Dollau a Threthi Ei Mawrhydi
£ yw cyfanswm y cyfraniad a dderbyniwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru
£ yw cyfanswm costau eich rhodd
£ yw cyfanswm y cyfraniad a dderbyniwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru
Eisiau gwybod mwy?
Galwch Katy Hales, Cyfarwyddwr Dyngarol, ar 02920 379580 neu drwy lenwi y ffurflen islaw