Gallwn ni eich helpu

Mae miloedd o ymddiriedolaethau elusennol ar draws Cymru, a chafodd nifer sylweddol ohonyn nhw eu sefydlu flynyddoedd maith yn ôl.

Gall weithiau fod yn faich difrifol i ymddiriedolwyr sy’n cario’r cyfrifoldeb am gronfa.

Mae hyn yn arbennig felly pan nad ydyn nhw’n gallu cyflawni’r pwrpas elusennol gwreiddiol, tra’n gwybod y gallai pobl leol gael gymaint fwy o fudd.

Dyna lle gallwn ni helpu.

Ymddiriedolaethau Adfywio

Adfywio Ymddiriedolaethau

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Elusennau i nodi elusennau yng Nghymru a allai elwa o gymorth gyda’u cronfeydd elusennol.

Ar ôl dod o hyd i’r elusennau hyn, mae’r Comisiwn yn annog yr Ymddiriedolwyr i sicrhau bod eu cymuned yn elwa o’r cronfeydd elusennol. Gall hyn fod trwy gyfeirio at gefnogaeth i helpu’r elusen i fynd yn ôl ar ei thraed. Lle nad yw hyn yn opsiwn, mae’r ymddiriedolwyr yn cael eu rhoi mewn cysylltiad â Sefydliad Cymunedol Cymru i drafod sut y gallwn eu helpu i gyflawni eu nodau elusennol. Mae modd gwneud hyn, gyda chefnogaeth y Comisiwn Elusennau, drwy drosglwyddo’r gronfa i’r Sefydliad a fydd wedyn yn ei rheoli er budd hirdymor cymunedau lleol, fel y bwriadwyd yn wreiddiol.

Mae Ymddiriedolwyr a Staff y sefydliad yn rheolwyr profiadol o gronfeydd elusennol a gallant gynghori ar y ffordd orau o drosglwyddo a sicrhau’r defnydd gorau o’r gronfa.

Mae gennym y sgiliau a’r profiad o reoli’r gronfa, gan ei datblygu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol tra’n dal i fod o fudd i gymunedau heddiw.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd rheoli cronfa eich ymddiriedolaeth, cysylltwch â ni drwy e-bostio trusttransfers@communityfoundationwales.org.uk fel y gallwn eich helpu gyda hyn yn yr un ffordd ag yr ydym eisoes wedi helpu nifer o ymddiriedolwyr eraill.

Enghraifft o sut gallwn ni eich cefnogi chi

Darllenwch am sut y buom yn helpu i adfywio cronfeydd ymddiriedolaeth Cyngor Sir y Fflint er budd prosiectau cymunedol eto.

Gweld y cyfan

Eisiau gwybod mwy?