Beth sydd yn digwydd nesaf?

Grants

Cyflwynwch eich cais am grant

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y meini prawf er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys, cyflwynwch eich cais erbyn y dyddiad cau a nodwyd a pheidiwch ag anghofio cynnwys yr holl ddogfennaeth ategol.
Beth sydd yn digwydd nesaf?

Asesir ceisiadau am grantiau

Rydym yn asesu pob cais cymwys. Mae hyn yn cynnwys gwiriadau diwydrwydd dyladwy er mwyn sicrhau bod eich sefydliad yn cydymffurfio â'i gorff cofrestredig e.e. y Comisiwn Elusennau. Efallai y cewch neges e-bost neu alwad ffôn yn ystod y cyfnod hwn os bydd angen i ni gael eglurhad ynglŷn â rhywbeth. Rydym hefyd yn cynnal ymweliadau asesu o bryd i'w gilydd.
Beth sydd yn digwydd nesaf?

Adolygir ceisiadau cymwys gan banel grantiau

Mae paneli grantiau wedi'u sefydlu i wneud argymhellion i'n Bwrdd Ymddiriedolwyr. Mae paneli grantiau yn cynnwys pobl â phrofiad lleol go iawn a/neu bobl ag arbenigedd perthnasol.
Beth sydd yn digwydd nesaf?

Hysbysir ymgeiswyr am ganlyniad eu cais

Byddwch yn derbyn hysbysiad gennym drwy e-bost i roi gwybod i chi os yw eich cais wedi bod yn aflwyddiannus neu'n llwyddiannus. Byddwn yn ceisio eich hysbysu am ganlyniad eich cais o fewn deufis i'r dyddiad cau. Fodd bynnag, yn achos rhai o'n rhaglenni mwy o faint, gall gymryd hyd at dri mis i chi gael canlyniad eich cais. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, bydd y neges e-bost yn cynnwys y rheswm pam, ynghyd â rhywfaint o adborth cyffredinol i ategu'r penderfyniad hwn. Ni allwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn, ond byddem yn eich annog i'n ffonio os hoffech ailymgeisio, er mwyn i ni allu rhoi adborth mwy penodol i chi ar eich cais.
Grants

Ymgeiswyr llwyddiannus

Pan fydd eich cais yn llwyddiannus cewch lythyr cynnig grant a thelerau ac amodau y bydd angen iddo gael ei lofnodi gan Uwch Swyddog yn eich sefydliad a'i ddychwelyd. Caiff unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y grant eu nodi yn y dogfennau hyn. Ar ôl i ni gael y telerau ac amodau wedi'u llofnodi, ac unwaith y bydd unrhyw amodau sydd ynghlwm wrth y grant wedi'u bodloni, telir y grant drwy drosglwyddiad BACS. D.S. Bydd angen i ni weld slip talu i mewn neu gyfriflen banc yn enw eich sefydliad fel tystiolaeth o'ch cyfrif cyn y gellir talu'r grant.
Grants

Monitro

Un o amodau eich grant yw bod yn rhaid i chi gwblhau adroddiad monitro er mwyn dweud wrthym sut rydych wedi gwario'r arian. Byddwn yn gofyn i chi ddarparu adroddiad manwl ar dempled safonol am 12 mis neu pan fydd eich prosiect wedi dod i ben – pa un bynnag o'r rhain sy'n dod gyntaf. Bydd yn rhoi cyfle i chi ddangos sut rydych wedi defnyddio'r grant a gawsoch, a dweud wrthym sut mae pobl wedi cael budd o'ch gwaith drwy rannu'r llwyddiannau a'r hyn a ddysgwyd o'ch prosiect. Byddem yn eich annog i anfon astudiaethau achos, ffotograffau a dyfyniadau gan bobl a fu'n ymwneud â'r prosiect.

Nodwch: yr un yw’r broses ar gyfer unigolyn sy’n gwneud cais am arian ond gellir ymdrin â’r cais yn gyflymach nag arfer os bydd yr unigolyn mewn sefyllfa argyfyngus.