Gweithio gyda chynghorwyr proffesiynol

Mae pobl yn gofyn i fwy a mwy o Gynghorwyr Proffesiynol Annibynnol am gyngor o ansawdd uchel ar ddyngarwch. Mae gan gleientiaid ddiddordeb yn yr enillion ariannol ar eu rhoddion, yr effaith y gallant eu cael ar eu cymuned leol a’r gymynrodd y gallent ei gadael.

Gall cynnig cyngor ar gynllunio dyngarol helpu i ennyn cefnogaeth gan fusnesau newydd a sicrhau bod y gwasanaeth rydych yn ei gynnig yn cyd-fynd â gwerthoedd craidd a diddordebau eich cleientiaid.

Dyma ble y gallwn helpu.

Gyda’n gwybodaeth a’n dealltwriaeth arbenigol o anghenion lleol mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru, gallwn gynghori ar roi i elusennau a gweithio gyda chi i ddarparu ateb wedi’i ei deilwra sy’n gost effeithiol a threth-effeithlon i’ch cleientiaid, gan roi’r hyblygrwydd iddynt ddewis sut, pryd a ble yr hoffent roi.

Gweithio gyda chynghorwyr proffesiynol

Sut y gallwn weithio gyda'n gilydd

O ran rhoi i elusennau, gallwn roi cyngor a chymorth i’ch helpu i symleiddio dymuniadau elusennol eich cleientiaid tra hefyd yn sicrhau bod eu rhoddion yn cael yr effaith fwyaf bosibl.

Pan fydd unigolyn neu deulu yn penderfynu rhoi i elusennau, mae nifer o opsiynau ar gael iddynt. P’un a ydych yn sefydlu cronfa o dan reolaeth y rhoddwr, gan drosglwyddo’r baich gweinyddol i ymddiriedolaeth elusennol sy’n bodoli eisoes neu adael cymynrodd mewn ewyllys, gallwn weithio gyda chi i ddatblygu cynllun rhoi i elusennau sy’n bodloni dymuniadau ariannol a dyngarol eich cleientiaid.

Mae rhoi i elusen gofrestredig yn syml, ond efallai y byddwch amau argymell sefydliadau penodol. Drwy gysylltu eich cleientiaid â Sefydliad Cymunedol Cymru, byddwch chi a’ch cleientiaid yn cefnogi llawer o achosion haeddiannol ar hyd a lled Cymru, nid un yn unig.

Rydym yn cynnig ateb cost effeithiol i’r rhai sydd â diddordeb mewn rhoi i elusennau ar raddfa fawr, yn ogystal â’r wybodaeth i gysylltu eich cleientiaid â’r achosion sy’n bwysig iddynt.

Mae gan ein tîm grantiau arbenigol wybodaeth helaeth am anghenion lleol ar hyd a lled Cymru a fydd, ynghyd â llawer o flynyddoedd o brofiad o baru rhoddwyr ag achosion lleol, yn sicrhau y caiff rhoddion eich cleientiaid eu targedu’n effeithiol ac yn y ffordd y maent yn ei dymuno.

Bydd gweithio gyda ni yn cael gwared ar y baich o sefydlu a gweinyddu elusen neu sefydliad. Rydym yn ymgymryd â’r gwaith o hyrwydd, asesu ceisiadau a monitro’r grantiau a wnaed o’ch cronfa ac yn llunio adroddiad effaith blynyddol ar gyfer eich cleient fel y gall weld sut yn union y mae’r arian mae’n ei roi yn cael ei ddefnyddio.

Enghraifft o bŵer ein partneriaeth

Darllenwch am ein gwaith gyda Geldards.

Darllen mwy
Gweithio gyda chynghorwyr proffesiynol

Eisiau gwybod mwy?

Galwch Katy Hales, Cyfarwyddwr Dyngarol, ar 02920 379580 neu drwy lenwi y ffurflen islaw