Cyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru
Ydych chi’n angerddol dros greu Cymru gryfach? Allwch chi ein helpu ni i ysbrydoli pobl i roi ac i helpu ein cymunedau i ffynnu?
Drwy ddod yn gyfaill i Sefydliad Cymunedol Cymru, gallwch feithrin dealltwriaeth wirioneddol o faint a natur yr anghenion ledled Cymru ond hefyd gyfrannu’n wirioneddol at ddatrysiad parhaol.
Mae buddsoddi yn rhwydwaith Cyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru yn ein galluogi i gryfhau, gan roi hwb i’n rôl o wneud grantiau. Mae hyn yn sicrhau bod Sefydliad Cymunedol Cymru yn gallu ymrwymo i gefnogi grwpiau cymunedol a phrosiectau ar lawr gwlad sy’n creu newid cadarnhaol ledled y wlad am flynyddoedd i ddod.
Rhesymau dros ddod yn Ffrind
Am eich rhodd aelodaeth flynyddol, £100 i unigolyn neu £500 i sefydliad, byddwch yn:
- amlygu eich cysylltiad â Sefydliad Cymunedol Cymru
- dangos eich cefnogaeth i elusen Gymreig leol
- derbyn blaenoriaeth wrth gael gwahoddiadau i’n digwyddiadau
- derbyn diolch yn fawr personol ar ein gwefan ac yn ein hadolygiad blynyddol
- cael cyfleodd i hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol, ar lein ac yn y wasg
