Rydym yn ysbrydoli pobl i roi, helpu cymunedau yng Nghymru i ffynnu a newid bywydau gyda’n gilydd.
Ers dros ugain mlynedd, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yn cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol gyda chyllid i gryfhau cymunedau ar draws Cymru.
Ers 1999, rydym wedi dyfarnu dros £40m mewn grantiau i grwpiau cymunedol ac elusennau ar lawr gwlad ledled Cymru.

Grantiau
Drwy weithio gyda’n cefnogwyr a’n partneriaid hael, rydym yn buddsoddi mewn atgyfnerthu cymunedau. Mae ein grantiau yn cydnabod rôl ysbrydoledig grwpiau cymunedol ac elusennau yn y gwaith o nodi a diwallu anghenion cymunedau lleol.
Darllen mwy
Rhoi
Hoffech chi gefnogi pobl a chymunedau yng Nghymru?
Gallwn eich helpu i sicrhau bod eich rhodd yn golygu mwy er mwyn iddi wneud llawer o wahaniaeth.
Darllen mwy
Gweithio Gyda'n Gilydd
Rydym yn gweithio gyda chynghorwyr proffesiynol ac ymddiriedolwyr elusennau er mwyn rhoi arweiniad a chymorth ar ddyngarwch a’r ffordd orau o gynllunio ar gyfer rhoi i elusennau.

Cyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru
Rhwydwaith unigryw yw Cyfeillion Sefydliad Cymunedol Cymru sy’n helpu i newid bywydau yng Nghymru.
Darllen mwy
Newid Bywydau Gyda'n Gilydd
Cadwch mewn cysylltiad
Os hoffech gael eich hysbysu’n rheolaidd am y newyddion diweddaraf o’r Sefydliad, yn ogystal â chanfod sut y gallwch fod yn rhan o’r gwaith hwn sy’n newid bywydau, clicwch yma.
Clicwch yma