Amdanom Ni

Rydym yn ysbrydoli pobl i roi, helpu cymunedau yng Nghymru i ffynnu a newid bywydau gyda’n gilydd.

Ers dros ugain mlynedd, mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi bod yn cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol gyda chyllid i gryfhau cymunedau ar draws Cymru.

Ers 1999, rydym wedi dyfarnu dros £40m mewn grantiau i grwpiau cymunedol ac elusennau ar lawr gwlad ledled Cymru.

Rydym yn gweithio gyda’n cefnogwyr hael i gyrraedd y bobl sydd gyda’r angen mwyaf ac i helpu i greu cydraddoldeb a chyfle mewn cymunedau Cymru.

Mae dros 30,000 o grwpiau cymunedol ac elusennau yng Nghymru sy’n gweithio i wella a datblygu eu cymunedau gan ddefnyddio eu menter eu hunain i ddiwallu anghenion lleol. Mae’r grwpiau a’r elusennau hyn yn deall yr heriau y mae’r bobl yn eu cymunedau yn eu hwynebu ac yn gwybod pa un yw’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r rhwystrau hyn.

Gwneir y gwaith hollbwysig hwn fel arfer o fewn cyllideb gyfyngedig neu yn wirfoddol, felly rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i’r prosiectau a’r sefydliadau gwych hyn, deall beth y maent yn ceisio ei gyflawni a’u cefnogi i wneud hynny.

Our vision

Cymru gyda chymunedau cryf a gweithgar

Byddwn yn atgyfnerthu cymunedau yng Nghymru drwy annog haelioni a rhoi i elusennau.

Our values

Rydym ni yn bartneriaid da

Rydym yn dangos gofal am bobl sydd yn gweithio gyda ni

Rydym yn gwneud gwahaniaeth

Ymunwch â'n tîm

Yn gyfnewid am eich angerdd a’ch ymrwymiad, gallwn gynnig amgylchedd gwaith a fydd yn eich helpu i dyfu a datblygu yn ogystal â sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.

Ymunwch â’n tîm
Amdanom Ni

Ein tîm

Gweld popeth

Ymddiriedolwyr

Gweld popeth

360 Giving

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi’i ymrwymo i fod yn dryloyw. Rydym ni’n gweithio gyda 360 Giving er mwyn cyhoeddi gwybodaeth am y grantiau ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol o Ebrill 2018.

Amdanom Ni

Llogi ystafell

Yng nghanol dinas Caerdydd, dim ond taith gerdded fer o orsaf reilffordd Heol y Frenhines a Cathays, Caerdydd, mae gan Sefydliad Cymunedol Cymru ystafell newydd ei hadnewyddu y gallwch chi ei llogi ar gyfer eich diwrnod hyfforddi, cyfarfod, seminar neu gyflwyniad.

Darllen mwy
Amdanom Ni