Ail-sefydlu Cronfa Adferiad Llifogydd Cymru i gefnogi Cymunedau Cymru ar l llifogydd a stormydd y gaeaf
Ail-sefydlu Cronfa Adferiad Llifogydd Cymru i gefnogi Cymunedau Cymru ar ôl llifogydd a stormydd y gaeaf
Ddydd Calan eleni, sefydlodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru gronfa newydd i helpu cymunedau i gael eu cefn atynt yn dilyn stormydd a llifogydd difrifol y gaeaf hwn.
Mae’r llifogydd wedi bod yn dyst i 1,400 o bobl yn gorfod dechrau ar y flwyddyn newydd heb bŵer ar ôl i werth mis o law ddisgyn mewn 24 awr. Roedd yn rhaid achub gyrwyr yng Ngogledd Cymru o geir y gorfu iddynt eu gadael ar y clwt ac yn arnofio, a chaewyd priffyrdd megis yr A55 yn gyfan gwbl Ddydd Gŵyl San Steffan. Ymlafniodd gweithwyr ymladd tân drwy’r nos i ddiogelu cartrefi oedd dan fygythiad o lifogydd rhag miloedd o alwyni o ddŵr.
O ganlyniad i’r stormydd geirwon ac yn dilyn pryder y cyhoedd am y teuluoedd a’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt, fe wnaeth y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru ail-sefydlu Cronfa Adferiad Llifogydd Cymru.
Gwahoddir rhoddwyr o bob cwr o Gymru i roi i’r gronfa fydd, dros yr wythnosau a’r misoedd a ddaw, yn dyfarnu grantiau i elusennau a phrosiectau cymunedol yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt waethaf.
Dywedodd Liza Kellett, Prif Weithredwr y Sefydliad, “Ddwy flynedd yn ôl, rhoddodd amrywiaeth o roddwyr y swm bendigedig o £85,000, a helpodd bobl o bob cwr o Gymru i oresgyn yr heriau a wynebwyd oherwydd y tywydd eithafol. Darparodd grantiau a ddyfarnwyd gymorth gwerthfawr i grwpiau a phrosiectau cymunedol gan helpu pobl o bob oed i atgyweirio, i adfer ac i ailadeiladu’u cymunedau.
“Er enghraifft, derbyniodd ymdrechion lliniaru llifogydd Y Rhyl grant o £25,000, a gynorthwyodd gyda’r costau o ddarparu cefnogaeth gyfeillgar a chymorth i bobl ar ôl i’w cartrefi ddioddef llifogydd. Dyfarnwyd grantiau eraill i grwpiau gwirfoddol bychain , megis y Cascade & District Allotment Association, a lwyddodd i atgyweirio to eu cwt storio cymunol a ddifrodwyd gan wynt, gan alluogi mwy o bobl i fynd ati i arddio.
“Fel elusen sy’n ymroi i gysylltu rhoddwyr â gwneuthurwyr, sefydlasom y gronfa adferiad llifogydd newydd hon i fod yn ffordd hawdd ac effeithiol i roddwyr helpu prosiectau lleol i adfer eu hysbryd cymunedol. Diolch ichi am gefnogi cymunedau ledled Cymru i ailgodi ar ôl tymor y Nadolig oedd â chwmwltywyll o dywydd a llifogydd difrifol uwch ei ben.”