Ymunwch â'n tîm

Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer:

 

Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata

Rydym yn chwilio am Bennaeth Cyfathrebu a Marchnata dawnus i ymuno â’n tîm gwych – ac i’n helpu i newid mwy o fywydau ledled Cymru.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Gweithio yn Sefydliad Cymunedol Cymru

Yma yn Sefydliad Cymunedol Cymru, credwn y gall prosiectau llawr gwlad newid bywydau.

Rydym yn gweithio gyda grwpiau cymunedol ac elusennau ledled Cymru, gan gymryd amser i ddeall yr hyn y maent yn ceisio ei gyflawni a’u cefnogi i wneud hynny trwy ddyfarnu grantiau ar ran ein rhoddwyr.

Rydym yn sefydliad sy’n seiliedig ar werthoedd. Mae ein gwerthoedd wedi deillio o’n tîm, yn siapio sut rydyn ni’n gweithio ac wedi eu gwreiddio ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud.

  • Rydym yn bartneriaid da
  • Rydyn ni’n gofalu am y bobl rydyn ni’n gweithio gyda nhw
  • Rydym yn gwneud gwahaniaeth

Yn gyfnewid am eich angerdd a’ch ymrwymiad, gallwn gynnig amgylchedd gwaith a fydd yn eich helpu i dyfu a datblygu yn ogystal â sicrhau cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.
Mae gennym becyn gwyliau hael o 25 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn ynghyd ag 8 gŵyl y banc yn ogystal â thri diwrnod ychwanegol o wyliau rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Mae gennym bolisïau cyfeillgar i deuluoedd, yn annog gweithio hyblyg ac yn cynnig mentrau lles fel sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar wythnosol.

 

Dod yn aelod o'r panel

Rydym yn chwilio am aelodau newydd o’r panel gwirfoddoli!

Darganfyddwch fwy
Ymunwch â’n tîm