Rydym yn chwilio am aelodau newydd o'r panel gwirfoddoli

Mae paneli grantiau yn hanfodol i’n gwaith gan eu bod yn ein helpu i gyflawni ein gwerthoedd mewn modd sy’n gydweithredol, yn dryloyw ac yn atebol i’r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r paneli dyfarnu grantiau ar gyfer ein Rhaglenni Cyllid ledled Cymru. Mae panel cyllido fel arfer yn cynnwys grŵp o unigolion sy’n gwneud penderfyniadau ynghylch ceisiadau am grant. Maent yn gwerthuso pob cais yn erbyn meini prawf ariannu penodol ac yn darparu argymhellion ynghylch a ddylai ymgeiswyr dderbyn cyllid.

Aelod Panel Grantiau

Mae gennym ddiddordeb mawr mewn clywed gan bobl sydd wedi’u lleoli yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru i gefnogi ein Cronfeydd yn y meysydd hyn.

Mae dod yn aelod o’r panel gyda Sefydliad Cymunedol Cymru yn gyfle gwirfoddoli gwych a’r cyfle i fod yn rhan o broses gwneud penderfyniadau a all gael effaith wirioneddol.

Pwy rydym yn chwilio amdano:

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad o weithio mewn lleoliadau cymunedol a’r trydydd sector i’n helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ddosbarthu’r cyllid. Rydym yn gwerthfawrogi amrywiaeth ac mae gennym ddiddordeb arbennig mewn clywed gan bobl o gefndiroedd nodwedd gwarchodedig, pobl â phrofiad o lygad y ffynnon, yn ogystal â phobl iau i’n helpu i gynrychioli Cymru yn well.

Gall aelodau’r panel ddod o unrhyw gefndir. Yn wir, po fwyaf amrywiol yw’r Panel, y mwyaf cynrychioliadol o’r cymunedau lleol y mae’n debygol o fod. Os yw hyn yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Sut i wneud cais:

Byddem yn eich annog yn gyntaf i glicio yma i ddarllen ein Pecyn Recriwtio Aelodau Panel. Yna, cliciwch ar y ddolen i gyflwyno’ch ffurflen Mynegi Diddordeb a Chyfle Cyfartal. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r Tîm Grantiau grants@communityfoundationwales.org.uk.

Byddwn yn cysylltu â chi, i gael sgwrs am Sefydliad Cymunedol Cymru a’r rôl hon ac i ni ddod i’ch adnabod yn well. Byddwch yn ymwybodol, bod yn rhaid i chi fod ar gael ar gyfer y dyddiadau sefydlu.

Mae’r dyddiadau allweddol wedi’u rhestru isod:

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau – 12 Hanner dydd, dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2024

Sgyrsiau dilynol anffurfiol – Bydd y rhain yn digwydd rhwng derbyn ceisiadau a’r wythnos yn dechrau, 8 Gorffennaf 2024

Hysbysiad i gadarnhau lle fel aelod o’r panel – Dydd Gwener 12 Gorffennaf 2024
Sefydlu ar gyfer Aelodau’r Panel – 10.00am, Dydd Mercher, 17 Gorffennaf 2024

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at glywed oddi wrthych.