Adeiladu bywydau newydd i bobl ifanc
“Rwyf wir yn mwynhau helpu yn Transitionz. Rwy’n mwynhau addysgu’r sesiynau chwaraeon a gemau. Mae helpu eraill yn gwneud i mi deimlo’n dda.”
Mae Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin yn gweithio gyda phobl ifanc, gan eu helpu i feithrin sgiliau a phrofiad newydd a rhoi yn ôl i’r gymuned leol hefyd. Dyfarnodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru grant o £10,000 o Brosiect Ieuenctid Caerfyrddin er mwyn ei helpu i barhau â’i fenter Transitionz.
Mae’r cyllid wedi helpu Prosiect Ieuenctid Caerfyrddin i barhau â’i brosiect Transitionz, sef “clwb ieuenctid bach” sy’n darparu lle diogel i blant rhwng 8 ac 11 oed gyfarfod, cymdeithasu a dysgu sgiliau newydd.
Cafodd y grŵp hwn o blant rhwng 8 ac 11 oed ei nodi gan yr heddlu lleol a gweithwyr cymdeithasol fel plant a oedd yn dod o deuluoedd difreintiedig ac yn wynebu’r risg o fwlio neu ymddwyn yn wrthgymdeithasol. Nid oedd unrhyw le iddynt gyfarfod y tu allan i’r ysgol ac nid oedd y clybiau a oedd yn cael eu rhedeg yn ffurfiol na’r ganolfan ieuenctid gyffredinol yn addas ar eu cyfer, felly sefydlwyd prosiect Transitionz.
Nod y clwb yw gwella a chodi dyheadau’r plant a’r bobl ifanc hyn drwy eu cynnwys yn y gymuned ac mewn gwaith ieuenctid; drwy eu hannog i gymryd rhan mewn prosiectau lleol a gwirfoddoli, yn ogystal â chefnogi eu cyfnod pontio i’r ysgol uwchradd drwy system cyfaill neu ‘buddy’.
Caiff Transitionz ei arwain gan weithwyr ieuenctid a grŵp o aelodau ieuenctid hŷn rhwng 11 ac 16 oed sydd wedi’u hyfforddi. Mae’r aelodau ieuenctid hŷn sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant, yn cael y cyfle i gael hyfforddiant, dysgu sgiliau newydd a dod yn fentoriaid. Mae’r sgiliau hyn yn hollbwysig yn y gymuned hon gan fod swyddi’n brin a’r gystadleuaeth yn ffyrnig.
Dywedodd T, sy’n 14 oed, pan ddechreuodd gyda Transitionz, roedd hi’n swil ac yn bryderus. Ers hynny, mae wedi magu hyder, ymgymryd â rôl ‘cyfaill’, helpu yn y caffi, helpu gyda sesiynau coginio ac ymuno mewn gweithgareddau codi arian.
Gyda’n cyllid ni, mae Transitionz wedi gallu cynnal rhaglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau ar gyfer y plant gan gynnwys diwrnod chwaraeon, celf a chrefft, sesiynau TG, garddio a choginio.
Mae mentoriaid ifanc wedi helpu plant Transitionz i baratoi i symud i ysgol uwchradd ac mae rhai ohonynt wedi dechrau mynychu’r prif brosiect ieuenctid ac, mewn rhai achosion, wedi mynd ymlaen i fod yn ‘gyfaill’ eu hunain.
Mae’r rhieni wedi gweld newid amlwg a chadarnhaol yn eu plant, gan ddweud cymaint maent yn gwerthfawrogi’r prosiect sydd wedi rhoi hwb i hyder eu plant ac wedi darparu llawer i gyfleoedd cyffrous na fyddai wedi bod ar gael iddynt fel arall.