Cronfa Dechrau o’r Newydd yn cefnogi grwpiau lleol sy’n gweithio ffoaduriaid a cheiswyr lloches
Mewn ymateb i’r argyfwng parhaus yn ymwneud â ffoaduriaid, lansiwyd cronfa newydd gwerth £525,000 i gefnogi grwpiau cymunedol yn y Deyrnas Unedig i groesawu ac i integreiddio ffoaduriaid a cheiswyr lloches i gymunedau lleol. Er bod y Deyrnas Unedig yn derbyn llai o newydd-ddyfodiaid na llawer o wledydd eraill, roedd y flwyddyn a orffennodd ym Mehefin 2015 yn dyst i 10% o gynnydd mewn ceisiadau am loches, a chynnydd enfawr o 46% yn nifer y plant a wahanwyd oddi wrth eu teuluoedd.[1]
Arweiniodd y don gyhoeddus o gydymdeimlad mewn ymateb i argyfwng y ffoaduriaid at gynnydd yn nifer y bobl sy’n ystyried gwirfoddoli. Un o amcanion y gronfa hon yw helpu grwpiau i adeiladu’u capasiti i brosesu’r cynigion cymorth hyn. Mae hyn yn neilltuol o bwysig ar adeg pan fo galw’n cynyddu a phan fo grwpiau’n gweithio â niferoedd mwy o bobl sydd wedi cael profiadau trawmatig.
Cyfrannwyd at Gronfa Dechrau o’r Newydd gan nifer o elusennau blaenllaw, yn cynnwys Sefydliad Paul Hamlyn, Ymddiriedolaeth Barrow Cadbury, Sefydliad Pears, Sefydliad Rayne, Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr, a Comic Relief.
Caiff y gronfa’i dosbarthu drwy rwydwaith Sefydliadau Cymunedol y DU (UKCF) o sefydliadau cymunedol lleol. Rheolir y broses geisiadau ledled pedair cenedl y Deyrnas Unedig gan: Sefydliadau Cymunedol Swydd Gaerhirfryn a Glannau Merswy, Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, Sefydliad Cymunedol Gogledd Iwerddon, Sefydliad yr Alban, Sefydliad Cymunedol Calon Lloegr, Sefydliad Cymunedol Caint a Sefydliad Cymunedol Llundain.
Anelir y gronfa at grwpiau lleol, bychain. Blaenoriaethir y grwpiau hynny ag incwm sy’n llai na £250,000. Ystyrir ceisiadau am hyd at £10,000 ond, mewn amgylchiadau eithriadol, dyfarnir grantiau am hyd at £20,000 ar gyfer cynigion cydweithredol yn ymwneud â phartneriaid lleol lluosog.
Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer gweithgareddau newydd neu weithgareddau presennol sy’n ymwneud â chymunedau lleol sy’n croesawu ac yn cefnogi newydd-ddyfodiaid. Safbwynt allweddol o’r gronfa hon yw bod integreiddio cynnar yn helpu i chwalu tyndrau ac i atal camsyniadau o fewn cymunedau lleol. Croesawir ceisiadau oddi wrth brosiectau sy’n pwysleisio gwerth integreiddio a gwaith gyda chymunedau i ddod yn gryfach ac yn fwy cysylltiedig, gan annog ffoaduriaid a cheiswyr lloches i wneud cyfraniad gweithredol ac i ymgysylltu’n bositif.
Os oes gan fudiadau eraill ddiddordeb mewn cyfrannu tuag at gronfa Dechrau o’r Newydd, dylent gysylltu ag Sefydliadau Cymunedol y Deyrnas Unedig am ragor o wybodaeth.