Cronfa Gwaddol Cymuned Powys – Unigolion

I gyd, a Powys

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae'r gronfa hon yn cau ar 19 Awst 2024 am 12pm (canolddydd).

Mae gan bob rhaglen feini prawf ac ardal benodol ar gyfer ei buddiant. Does DIM rhaid i chi ymgeisio ar gyfer cynllun penodol; bydd ein tîm grantiau’n cyflwyno eich cais i’r gronfa fwyaf perthnasol.

Cronfa Goffa Stanley Bligh

Nod Cronfa Goffa Stanley Bligh yw cefnogi astudiaethau addysgol ym maes coedwigaeth, amaethyddiaeth a phynciau technegol a galwedigaethol ym maes y celfyddydau neu’r gwyddorau.

Mae grantiau o £500 – £1000 i unigolion ar gael. Mae enghreifftiau o’r costau a gefnogir yn y gorffennol yn cynnwys:

  • ffioedd cyrsiau (ble nad oes cefnogaeth arall ar gael)
  • prynu offer
  • defnyddiau addysgol
  • teithio (os yw’n golygu budd addysgol arwyddocaol i unigolyn / grŵp a / neu gymuned)
  • costau rhedeg prosiect addysg gymunedol penodol.

Hen Ysgol Ramadeg y Merched, Cronfa Aberhonddu

Nod Cronfa Goffa Stanley Bligh yw cefnogi astudiaethau addysgol ym maes coedwigaeth, amaethyddiaeth a phynciau technegol a galwedigaethol ym maes y celfyddydau neu’r gwyddorau.

Mae grantiau o £500 – £1000 i unigolion ar gael. Mae enghreifftiau o’r costau a gefnogir yn y gorffennol yn cynnwys:

  • ffioedd cyrsiau (ble nad oes cefnogaeth arall ar gael)
  • prynu offer
  • defnyddiau addysgol
  • teithio (os yw’n golygu budd addysgol arwyddocaol i unigolyn / grŵp a / neu gymuned)

Cronfa Elusennol Ysgol Uwchradd Llandrindod

Mae’r gronfa hon yn anelu at ddarparu cefnogaeth addysg i bobl sydd wedi mynychu Ysgol Uwchradd Llandrindod sy’n symud i ymlaen i addysg bellach / uwch neu hyfforddiant.

Mae grantiau o £500 ar gael i unigolion. Fel arfer, dyfarnwyd grantiau:

  • bwrsarïau ar gyfer costau addysg uwch.
  • offer, defnyddiau a thŵls er mwyn dechrau mewn proffesiwn neu grefft.
  • cymorth i fyfyrwyr sy’n astudio cerdd neu’r celfyddydau.

Sut i wneud cais?

Rhaid i bob ymgeisydd gwblhau ffurflen gais sydd ar gael ar ein gwefan. Cofiwch:

  • ni roddir grantiau’n ôl-weithredol h.y. ar gyfer costau sydd eisoes wedi codi cyn derbyn ein llythyr yn cynnig grant a chyn llofnodi a
  • dychwelyd yr amodau a thelerau
  • nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar ran grwpiau ac elusennau eraill.
  • rhaid gwario’r grant yn llawn o fewn un flwyddyn o dderbyn ein llythyr o gynnig
  • rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol

Cyllid Blwyddyn Lluosog

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hi i unigolion allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael cyllid diogel yn gallu rhoi’r hyder a’r sicrwydd i chi ddatblygu dros y tymor hir. Mae Cronfa Sir y Fflint bellach yn cynnig cyfle i unigolion wneud cais am gyllid aml-flwyddyn o hyd at 3 blynedd ond bydd hefyd yn parhau i gynnig cyllid 1 flwyddyn ar gyfer prosiectau neu eitemau cyfalaf bach.

Rydym yn gobeithio gallu gwneud o leiaf un grant tair blynedd y flwyddyn. I gael eich ystyried am grant tair blynedd, cwblhewch adran ychwanegol y ffurflen gais sy’n nodi sut rydych yn bwriadu datblygu eich prosiect dros y cyfnod o gyllid y gwneir cais amdano. Bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried am gyllid blwyddyn os nad ydych yn llwyddiannus gyda grant tair blynedd.

 

Ymgeisiwch nawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

Cronfa Caryl & Henry Bettws (Casnewydd)

Casnewydd, De Cymru a I gyd

Cronfa’r Teulu Brown

Caerdydd, De Cymru a I gyd