Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili, Casnewydd, Castell-nedd Port Talbot, Ceredigion, Conwy, Dinas Caerdydd, Gwynedd, I gyd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Sir Gar, Sir Penfro, Sir y Fflint, Torfaen, Wrecsam, a Ynys Môn

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae ceisiadau yn agored i sefydliad YN UNIG. Mae'r Gronfa hon yn cau ddydd Llun 30 Medi am 12pm (canol dydd)

Cronfa Cymru gyfan yw Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality a sefydlwyd mewn partneriaeth â Chymdeithas Adeiladu’r Principality gyda’r nod o wella’r amgylchedd yng Nghymru.

Bydd y gronfa hon yn cefnogi sefydliadau ledled Cymru i wella eu heffeithlonrwydd ynni trwy ôl-osod adeiladau neu i brynu offer a fydd yn gwneud adeilad neu ofod cymunedol yn fwy ecogyfeillgar a/neu effeithlon yn amgylcheddol.

Byddwn yn blaenoriaethu sefydliadau a phrosiectau sy’n cynyddu hygyrchedd i’r rhai sy’n cael eu tanwasanaethu neu’n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy’n cefnogi unigolion o gefndiroedd nodwedd gwarchodedig 2010 Deddf Cydraddoldeb ac unigolion o’r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Byddem yn disgwyl gweld arolwg ynni sy’n dangos bod yr adeilad yn addas i’w uwchraddio ac yn debygol o weld buddion arbed ynni yn ogystal â chael effaith amgylcheddol gadarnhaol oherwydd gosod yr uwchraddiad hwn.

Enghreifftiau o welliannau amgylcheddol y byddwn yn eu hystyried:

  • paneli solar neu pympiau gwres
  • inswleiddio
  • goleuadau ynni effeithlon
  • storio batri

Grantiau ar gael

Grantiau mawr o hyd at £25,000 am flwyddyn.

Byddem yn disgwyl i geisiadau allu dangos sut y byddai’r prosiect yn effeithio ar yr amgylchedd a lle bo hynny’n bosibl, unrhyw arbedion ynni blynyddol disgwyliedig a fyddai’n dod yn sgil y rhandaliad.

Who can apply?

  • Grwpiau Cyfansoddol
  • Elusennau Cofrestredig a Sefydliadau Corfforedig Elusennol
  • Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant
  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
  • Mentrau Cymdeithasol

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan.

Sylwer:

  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Nid yw grantiau ar gael tuag at godi arian cyffredinol nac i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
  • Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Gall grwpiau gyflwyno un cais am grant bach neu fawr yn unig.
Ymgeisiwch nawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais

Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Read More
Cronfa Ôl-osod ar gyfer y Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â ni ar 02920 379 580 neu anfonwch e-bost i grants@cfiw.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.






    Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

    Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

    Parhewch

    Grants

    Gweld y cyfan

    Cronfa Gwyddoniaeth Gogledd Ddwyrain Cymru – Unigolion

    Conwy, Gogledd Cymru, I gyd

    Cronfa Waddol Cynnal – Unigolion

    Gogledd Cymru, Gwynedd, I gyd a Ynys Môn

    Cronfa Caryl & Henry Bettws (Casnewydd)

    Casnewydd, De Cymru a I gyd

    Cronfeydd Sir y Fflint – Unigolion

    Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint