Cronfa Waddol Cynnal
Gwynedd, I gyd, a Ynys Môn
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Mae Cronfa Waddol Cynnal yn grant a fydd yn ariannu prosiectau addysgol yng Ngwynedd ac Ynys Môn, a bydd yn darparu cefnogaeth i’r themâu canlynol:
- Gweithgareddau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant, pobl ifanc a phlant oed ysgol yn y blynyddoedd cynnar hyd at 18 oed.
- Prosiectau ysgol/coleg sy’n cefnogi hyfforddiant galwedigaethol, materion iechyd a byw’n iach.
Grantiau ar gael
Mae grantiau o £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd ar gael i sefydliadau.
Gellir defnyddio grantiau i ariannu cyfalaf a/neu gostau rhedeg prosiect.
Pwy sy'n gallu ymgeisio?
Elusennau neu sefydliadau cymunedol dielw sy’n darparu gweithgareddau addysgol.
Ysgolion yng Ngwynedd neu Ynys Môn, i’w ddefnyddio at ddibenion addysgol elusennol sy’n ychwanegol at ofynion gorfodol cwricwlwm yr ysgol.
Ni roddir grantiau i dalu am unrhyw gostau sy’n dod o dan ddarpariaethau statudol.
Sut i wneud cais?
Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein trwy ein gwefan. Sylwer:
- Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
- Nid yw grantiau ar gael i gefnogi codi arian ar gyfer grwpiau ac elusennau eraill.
- Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
- Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y safon ddisgwyliedig cyn gwneud cais
Dyma’r safonau gofynnol mae’n rhaid i sefydliad eu cyfarfod er mwyn bod yn gymwys i gael arian gan Sefydliad Cymunedol Cymru.
Cliciwch ymaGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: