Cronfa Waddol Gymunedol Sir Ddinbych – Unigolion

I gyd, a Sir Ddinbych

Mae’r rhaglen yma ar agor i geisiadau

Mae ceisiadau ar agor i grwpiau UNIGOLION. Mae'r gronfa hon yn cau ar 5 Awst 2024 am 12pm (canolddydd).

Nod Cronfa Waddol Cymunedol Sir Ddinbych yw ariannu mentrau addysgol.

Grantiau ar gael

Gall unigolion wneud cais am grantiau o hyd at £500.

Pwy all wneud cais?

Myfyrwyr hyd at a chan gynnwys 25 oed sydd ar hyn o bryd yn byw yn llawn amser yn ardal Awdurdod Lleol Sir Ddinbych, ar yr amod nad yw’r mentrau yn dod o fewn darpariaeth statudol.

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos yn union sut y byddant yn cyflawni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi derbyn cefnogaeth gan y Gronfa hon o’r blaen.

Sut i wneud cais?

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen gais ar-lein y gellir ei chyrchu trwy ein gwefan.

Sylwer:

  • Ni ddyfernir grantiau’n ôl-weithredol, h.y. am gostau a dynnir cyn derbyn ein llythyr cynnig grant, a dychwelwyd y telerau a’r amodau llofnodedig.
  • Rhaid gwario’r grantiau’n llawn o fewn blwyddyn o dderbyn ein llythyr cynnig.
  • Rhaid i’r cais ddangos angen clir am gymorth ariannol, caledi ariannol neu anghenion cymorth ychwanegol.
Ymgeisiwch nawr

Gwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys

Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais:

Parhewch

Grants

Gweld y cyfan

Cronfa Caryl & Henry Bettws (Casnewydd)

Casnewydd, De Cymru a I gyd

Cronfa’r Teulu Brown

Caerdydd, De Cymru a I gyd

Cronfeydd Sir y Fflint – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd a Sir y Fflint

Cronfeydd Wrecsam – Unigolion

Gogledd Cymru, I gyd a Wrecsam