Cronfeydd Buddsoddi Elusennol
Mae llawer o elusennau a sefydliadau bach yn cadw cronfeydd elusennol wrth gefn. Gyda chwyddiant yn codi’n gyflym, mae’n bwysig i elusennau fuddsoddi’r arbedion i helpu i ddiogelu eu dyfodol.
Yma yn Sefydliad Cymunedol Cymru, gallwn eich helpu i ddiogelu eich cronfeydd wrth gefn drwy sefydlu Cronfa Buddsoddi Elusennol.
Cronfa Asiantaeth
Bydd elusennau sy’n agor un o’r cronfeydd hyn gyda Sefydliad Cymunedol Cymru yn elwa o’n harbenigedd mewn buddsoddiad ariannol elusennol a rheoli risg.
Mae ein Cronfeydd Buddsoddi Elusennol wedi cael twf blynyddol cyfartalog o 9% dros y pum mlynedd diwethaf ac fe’u buddsoddwyd mewn modd moesegol.
Adolygir ein strategaeth fuddsoddi a gymeradwywyd gan y bwrdd bob tair blynedd i sicrhau bod ein nodau buddsoddi yn cyd-fynd â’n nodau fel sefydliad elusennol.
Rydym yn gweithio gyda dau reolwr buddsoddi i gyflawni ein nodau, Brewin Dolphin a CCLA. Caiff eu perfformiad ei graffu bob chwarter gan ein Pwyllgor Cyllid, Risg a Buddsoddi.
Byddwn yn adrodd yn ôl i chi’n rheolaidd i roi gwybod i chi am berfformiad eich cronfa.
Bydd agor Cronfa Buddsoddi Elusennol gyda Sefydliad Cymunedol Cymru nid yn unig yn rhoi tawelwch meddwl i chi o wybod bod eich elusen yn diogelu ei dyfodol, ond byddwch hefyd yn buddsoddi yng nghymunedau Cymru; gan ein helpu i fod yn gryfach ac i gefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn angen.
Os ydych chi’n meddwl y byddai hyn yn ddewis defnyddiol i’ch elusen chi, cofiwch fod croeso i chi gysylltu â ni i drafod ymhellach.
Peidiwch â chymryd ein gair ni amdano!
Cysylltwch â ni
Os teimlwch y byddai hwn yn opsiwn defnyddiol i’ch elusen, cysylltwch â ni