Sut y gallwn weithio gyda'n gilydd
O ran rhoi i elusennau, gallwn roi cyngor a chymorth i’ch helpu i symleiddio dymuniadau elusennol eich cleientiaid tra hefyd yn sicrhau bod eu rhoddion yn cael yr effaith fwyaf bosibl.
Pan fydd unigolyn neu deulu yn penderfynu rhoi i elusennau, mae nifer o opsiynau ar gael iddynt. P’un a ydych yn sefydlu cronfa o dan reolaeth y rhoddwr, gan drosglwyddo’r baich gweinyddol i ymddiriedolaeth elusennol sy’n bodoli eisoes neu adael cymynrodd mewn ewyllys, gallwn weithio gyda chi i ddatblygu cynllun rhoi i elusennau sy’n bodloni dymuniadau ariannol a dyngarol eich cleientiaid.
Mae rhoi i elusen gofrestredig yn syml, ond efallai y byddwch amau argymell sefydliadau penodol. Drwy gysylltu eich cleientiaid â’r Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, byddwch chi a’ch cleientiaid yn cefnogi llawer o achosion haeddiannol ar hyd a lled Cymru, nid un yn unig.
Rydym yn cynnig ateb cost effeithiol i’r rhai sydd â diddordeb mewn rhoi i elusennau ar raddfa fawr, yn ogystal â’r wybodaeth i gysylltu eich cleientiaid â’r achosion sy’n bwysig iddynt.
Mae gan ein tîm grantiau arbenigol wybodaeth helaeth am anghenion lleol ar hyd a lled Cymru a fydd, ynghyd â llawer o flynyddoedd o brofiad o baru rhoddwyr ag achosion lleol, yn sicrhau y caiff rhoddion eich cleientiaid eu targedu’n effeithiol ac yn y ffordd y maent yn ei dymuno.
Bydd gweithio gyda ni yn cael gwared ar y baich o sefydlu a gweinyddu elusen neu sefydliad. Rydym yn ymgymryd â’r gwaith o hyrwydd, asesu ceisiadau a monitro’r grantiau a wnaed o’ch cronfa ac yn llunio adroddiad effaith blynyddol ar gyfer eich cleient fel y gall weld sut yn union y mae’r arian mae’n ei roi yn cael ei ddefnyddio.