Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata
Dyddiad cau: 31ain Ionawr 2025
Llawn amser – 37 awr
Parhaol
Rydym yn chwilio am Bennaeth Cyfathrebu a Marchnata dawnus i ymuno â’n tîm gwych – ac i’n helpu i newid mwy o fywydau ledled Cymru.
Mae’r Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata yn rôl hollbwysig sy’n cefnogi twf Sefydliad Cymunedol Cymru drwy roi ein strategaeth marchnata a chyfathrebu ar waith.
Mae’r rôl yn siapio sut rydym yn rhannu straeon ac yn cyfathrebu am yr elusen, gan ein helpu i adeiladu cefnogaeth ac ymestyn ein heffaith gyda chynulleidfaoedd allweddol.
Byddwch yn helpu i drefnu digwyddiadau gyda’n rhanddeiliaid a fydd yn ein helpu i gysylltu ac adeiladu ein sylfaen cefnogwyr.
Mae’r swydd hon yn gofyn am rywun sy’n awyddus i gymryd cyfrifoldeb ac sy’n gallu defnyddio eu sgiliau dylanwadu. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn mwynhau amrywiaeth – does dim dau ddiwrnod yr un fath yma – a bod yn hunan-ddechreuwr gyda sgiliau trefnu rhagorol sydd ag angerdd am gael effaith gadarnhaol ar fywydau Cymru.
Yn ddelfrydol byddwch yn gallu gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan ein helpu i rannu straeon a chyfathrebu â chefnogwyr ar draws Cymru gyfan.
Gallwch ddarllen y pecyn swydd isod.
I wneud cais, cliciwch ar y ddolen hon.