Swyddog Monitro Grantiau

Dyddiad cau: 18fed Awst 2024

Rhan amser – 22.5 awr

Cytundeb cyfnod penodol – Cyfnod Mamolaeth: Cyfnod penodol o 12 mis. Disgwylir i’r rôl ddechrau ganol mis Hydref 2024, ond mae hyn yn hyblyg.

Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Monitro Grantiau i ymuno â’n tîm gwych – ac i’n helpu i barhau i dyfu er mwyn i ni allu newid mwy o fywydau ledled Cymru.

Mae rôl y Swyddog Monitro Grantiau yn eistedd wrth galon Sefydliad Cymunedol Cymru. Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thri Swyddog Grantiau arall a fydd yn cynnig cymorth ac arweiniad wrth i chi setlo yn eich rôl.

O fewn y Tîm, byddwch yn gyfrifol am sicrhau bod yr holl ffurflenni monitro grantiau yn cael eu derbyn ar amser a’u bod o ansawdd digonol i’n galluogi i roi gwybod am effaith ein cronfeydd. Mae ein rhaglenni grant yn amrywio o grantiau addysg lleol mewn rhannau gwledig o Gymru i raglenni ledled Cymru sy’n mynd i’r afael â materion eang sy’n wynebu grwpiau cymunedol.

Rydym yn chwilio am unigolyn disglair a brwdfrydig sydd ag angerdd am ymgysylltu â’r gymuned, ymchwilio i anghenion lleol, dadansoddi data, tynnu sylw at dueddiadau, datrys problemau a chefnogi gofynion adrodd ehangach.

Byddai’r rôl hon yn addas i rywun sydd â dealltwriaeth o faterion cymdeithasol ac sy’n angerddol am rôl y sector gwirfoddol yng Nghymru neu sy’n awyddus iawn i ddysgu.

Cyflwynwch CV ynghyd â llythyr eglurhaol sy’n tynnu sylw at pam yr hoffech weithio yn Sefydliad Cymunedol Cymru, beth wnaeth eich denu i ystyried y rôl hon, a sut y bydd eich profiad a’ch arbenigedd yn ychwanegu gwerth at ein gwaith, gan helpu Sefydliad Cymunedol Cymru i gyflawni ei uchelgeisiau.

Anfonwch eich CV a’ch llythyr eglurhaol, ynghyd â ffurflen monitro cyfle cyfartal wedi’i chwblhau, i finance@communityfoundationwales.org.uk gyda’r llinell pwnc ‘Cais am rôl Swyddog Monitro Grantiau.’