Y ddadl am gyllid craidd
“Cyllid craidd. Mae’n fwy anodd nag erioed i’w gael. Heb fod ein craidd yn cael ei gynnal fydd gennym ni mo’r amser i fod yn arloesol ac i gydweithredu ag eraill.”
Roedd y geiriau grymus hyn gan Rich Flowerdew, Pennaeth Sgowtiaid Cymru, yn diasbedain yn yr awyr fel cyflwyniad i weinar i annog ystyried sut i gyllido’r trydydd sector yng Nghymru’n fwyaf effeithiol.
Wrth gwrs, rydyn ni, fel cyllidwyr yn deall hyn yn dda iawn.
Rydyn ni hefyd yn gyfarwydd ag ail bwynt Richard – fod elusennau angen adborth ynghylch bidiau am gyllid a sut i helpu grwpiau ddysgu a gwella.
Pennau’n nodi ymhobman i hynny hefyd.
Felly, pan fod rhoddwyr a chyllidwyr yn ei chael mor anodd newid? Pam fod cyllid craidd mor brin, pan fod yna cyn lleied o adborth defndydiol, pam fod yna gylch cyson o gyllido prosiectau?
Roedd y panel yn meddwl mai un rheswm dros hyn yw nerfusrwydd y rhoddwyr; y byddai grwpiau’n dod i ddibynnu ar gyllid craidd ac yn methu â gwneud hebddo. Mae’n safbwynt dealladwy ond gellid dweud yr un peth am bob cymorth cyllid.
Un peth a’m trawodd i oedd y sylw nad yw busnesau ‘ddim yn deall problem cyllid craidd o gwbl’. Y farn oedd bod yr iaith yn dieithrio rhoddwyr ac oni fyddai cyllid diamod yn well?
A dyma lle’r ydyn ni’n methu fel sector ar y pwynt pwysig hwn. Mae’r peth hanfodol yn cael ei foddi mewn môr o jargon sy’n annealladwy i’r byd y tu allan, hyd yn oed y dyngarwr neu gyllidwr sydd wirioneddol eisiau gwneud gwahaniaeth.
Mae cyllidwyr rhoddwyr yn gallu – ac angen – cymryd rhai o’r camau cyntaf ynghylch hyn. Ond, mae’n rhaid i ni weithio ar y cyd, gydag elusennau a grwpiau cymunedol, bod ag ychydig yn fwy o grebwyll a thrafod hyn a chyllid craidd ychydig yn fwy miniog.
Fe fyddwn i, a dweud y gwir, yn mynd ymhellach na geiriau’r uchod gan Rich. Y gwirionedd ar hyn o bryd yw fod llawer o grwpiau ac elusennau angen cyllid i oroesi. Rydyn ni ymhell y tu hwnt y cyfnod o fod ag amser i ystyried a phwyso a mesur gwerth gwahanol gyllid. Allwn ni ddim gwneud hynny ar adeg mor ansicr.
Tra ein bod ni’n ystyried pethau, mae grŵp arall wedi mynd i’r wal a mwy o bobl fregus yn colli eu cefnogaeth, mwy o bobl ifanc yn colli cyfleoedd a’r ffynonellau hynny o gefnogaeth hanfodol ar gyfer ein cymunedau yng Nghymru’n chwalu.
Os ydyn ni’n gofyn i’r sector am eu barn, mae’n rhaid i ni wrando a gweithredu.
Mae Sefydliad Cymunedol Cymru’n chwilio ar hyn o bryd am bartneriaid a rhoddwyr sydd eisiau gweithio ar hyn. Rydyn ni’n annog ein rhoddwyr a’n partneriaid cyllido presennol i wrando ar y neges yn Unchel ac yn Groch sy’n diasbedain ar dudalennau’r adroddiad.
Mae hon yn sefyllfa mor argyfyngus â’r un rydyn ni wedi’i hwynebu – cofiwch gysylltu os gallwch chi helpu.