£1m mewn grantiau i grwpiau cymunedol i gefnogi’r rhai mwyaf bregus drwy’r argyfwng costau byw
Yn gynharach eleni, lansiodd Sefydliad Cymunedol Cymru, gyda’i partneriaid Newsquest, apêl argyfwng Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – apêl argyfwng costau byw yn gofyn i unigolion, busnesau a sefydliadau gyfrannu i gefnogi elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru i helpu’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw.
Mae grwpiau cymunedol ledled Cymru bellach wedi derbyn grantiau sy’n dod i gyfanswm o fwy na £1 miliwn o gymorth i gymunedau Cymru.
Heddiw, mae’r apêl yn cael ei hail-lansio ac rydym unwaith eto yn gofyn am fwy o gefnogaeth.
Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru:
“Rydym yn falch ein bod wedi dyfarnu mwy na £1m mewn grantiau i elusennau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru gan helpu’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw. Mae’r sefydliadau rydym wedi’u cefnogi yn gweithio’n galed i leddfu sefyllfaoedd o argyfwng a chaledi ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn eu cymunedau lleol.
Trwy ein partneriaeth â Newsquest, haelioni ein rhoddwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Natwest a chefnogaeth ein partneriaid cyllido, Sefydliad Steve Morgan, Sefydliad Waterloo a Sefydliad Moondance, rydym wedi llwyddo i greu gofod lle gall cymunedau ddod at ei gilydd i gefnogi’r elusennau sy’n helpu pobl drwy argyfwng costau byw.
Mae misoedd anoddach i ddod, ac rydym am allu helpu cymaint o bobl ledled Cymru ag y gallwn, felly rydym unwaith eto yn galw ar unigolion a busnesau sy’n credu’n angerddol yng ngwerth y gymuned leol i gefnogi’r apêl gyda rhodd.”
Dywedodd Gavin Thompson, golygydd rhanbarthol Cymru yn Newsquest:
“Pan lansiwyd yr apêl hon, doedd dim syniad gennym y byddem yn gallu dosbarthu mwy na £1 miliwn i grwpiau cymunedol ledled Cymru. Rwyf mor ddiolchgar i bawb sydd wedi ei gefnogi, o roddwyr unigol i fusnesau a Llywodraeth Cymru.
Bydd yr arian hwn yn gwneud gwahaniaeth i lawer o bobl sy’n cael trafferth y gaeaf hwn. Ond rydym hefyd yn sylweddoli bod mwy i’w wneud, yn enwedig wrth i rywfaint o gefnogaeth y llywodraeth ddisgyn i ffwrdd, a dyna pam rydym yn ailagor yr apêl heddiw.
Os gall unigolion, busnesau neu sefydliadau roi’r hyn a allant, byddwn yn sicrhau bod arian yn helpu pobl sydd mewn gwir angen yn y misoedd i ddod.”
Drwy weithio gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr i’r nifer fawr o bobl sy’n cael trafferth yn ystod yr argyfwng costau byw, gan sicrhau bod y sefydliadau sy’n cefnogi’r rhai sydd fwyaf mewn angen yn gallu parhau i wneud hynny nawr, ac yn y misoedd anodd i ddod.
Gallwch ddarganfod mwy a chyfrannu at yr apêl yma.