Diolch am gefnogi y Gronfa Adferiad Llifogydd Cymru
O ganlyniad i’r stormydd difrifol dros gyfnod y Nadolig a than ddechrau 2016, ac yn dilyn pryder y cyhoedd am y teuluoedd a’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt, ailsefydlodd y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru Gronfa Adferiad Llifogydd Cymru ar Nos Galan.
Cefnogwyd yr apêl hon gan roddwyr ledled Cymru gyda thros £15,000 mewn rhoddion oddi wrth fusnesau, teuluoedd, ymddiriedolaethau a grwpiau cymunedol. Er enghraifft, bu Cymdeithas Adeiladu’r Principality yn ddigon caredig i roddi i gefnogi adferiad cymunedol, fel y gwnaeth un o ganghennau Tesco, ac roeddem wrth ein bodd o dderbyn rhodd gan Mrs M.C. Bartley a gododd y swm ardderchog o £300 yn ei chaffi cymuned elusennol.
Dywedodd Liza Kellett, Prif Weithredwr y Sefydliad, “Fel elusen sy’n ymroddedig i gryfhau cymunedau, fe sefydlasom ein Cronfa Adferiad Llifogydd i fod yn ffordd hawdd ac effeithiol i roddwyr, fel Mrs Bartley, helpu prosiectau lleol i adfer eu hysbryd cymunedol – rhywbeth sydd, fel seilwaith cyffyrddadwy, yn hawdd ei ddifodi ond sydd eto’n cymryd blynyddoedd i’w adeiladu.
“Diolch byth, nid oedd y stormydd yng Nghymru mor ddifrifol â mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, er ein bod ninnau hefyd wedi cael ein cyfran deg o yrwyr yn sownd mewn dŵr a chefn gwlad dan lifogydd. Gyda chymorth brys ac adferiad yswiriant yn cael eu darparu gan asiantaethau lleol, ynghyd â phrofiad ac ymdrechion adferiad blynyddoedd blaenorol o fynd i’r afael â llifogydd a stormydd aruthrol o ysgytwol, ymdopodd grwpiau cymunedol Cymru yn gymharol dda. Rydym yn falch o fod wedi gallu adeiladu’n Cronfa Adferiad Llifogydd Cymru i fod yn rhagweithiol, yn adweithiol ac yn gefnogol wrth helpu cymunedau i gael eu cefn atynt.”
Pery Cronfa Adferiad Llifogydd Cymru yn agored i grwpiau cymunedol gyflwyno ceisiadau i’w helpu i adennill ysbryd cymunedol ac adnoddau cymunedol. I roi galw 02920 379580 neu ebostio info@cfiw.org.uk