360 Giving

Mae llawer o elusennau, grwpiau gwirfoddol a chymunedol ac unigolion ledled Cymru’n elwa o’r grantiau rydym ni’n eu rhannu.

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru wedi’i ymrwymo i fod yn dryloyw. Rydym ni’n gweithio gyda 360 Giving er mwyn cyhoeddi gwybodaeth am y grantiau ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol o Ebrill 2018.

Bydd y rhestr flynyddol yn helpu grwpiau, dalwyr cronfeydd ac ymchwilwyr i ganfod mwy o fanylion ynghylch ble mae’r grantiau yn mynd.
Rydym ni’n credu, gyda gwell gwybodaeth, y bydd gwneuthurwyr grantiau yn gallu cymryd penderfyniadau mwy effeithiol a strategol. Mae 360Giving yn helpu gwneuthurwyr grantiau i gyhoeddi eu data ynghylch grantiau yn agored, i ddod i ddeall eu data ac i ddefnyddio’r data i greu teclynnau ar lein sy’n golygu fod grantiau’n cael eu rhannu’n fwy effeithiol. Am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.

Mae’r gwaith hwn wedi drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Priodoleddau Cyffredin Creadigol 4.0. I weld copi o’r drwydded hon, cliciwch yma. Golyga hyn fod y data ar gael i bawb ei ddefnyddio a’i rannu yn ôl eu dymuniad. Rhaid i’r data cael ei briodoli i Sefydliad Cymunedol Cymru.

Rhestr o’r grantiau a dyfarnwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru:

Grantiau a ddyfarnwyd yn y Flwyddyn Ariannol 2018/19

Grantiau a ddyfarwyd yn y Flwyddyn Ariannol 2019/20

Grantiau a ddyfarwyd yn y Flwyddyn Ariannol 2020/21

Grantiau a ddyfarwyd yn y Flwyddyn Ariannol 2021/22

Grantiau a ddyfarnwyd yn y Flwyddyn Ariannon 2022/23 (Q1,Q2 ,Q3,Q4)

Grantiau a ddyfarnwyd yn y Flwyddyn Ariannon 2023/24 (Q1)