Sefydlwyd. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y bwrdd ar Hydref 13, 1999 gyda'r cadeirydd Keith Arnold, John Curteis, John Tree, Ken Abram, Pearl Criddle, ac ymddiheuriadau gan Andrew Reid, John Pathy a Charles Middleton.
2004
Wedi dyfarnu cyfanswm o fwy na £1m mewn grantiau. Ymysg rhain oedd grantiau i Ymddiriedolaeth Treftadaeth Porthaethwy a Phartneriaeth Aberdyfi.
2006
Mae'r sefydliad yn cyrraedd £1m mewn cronfeydd gwaddol.
2007
Derbyn Gwobr Achredu Ansawdd a gymeradwywyd gan y Comisiwn Elusennau.
2011
Mae'r Tywysog Siarl yn cytuno i gael ei apwyntio yn Noddwr.
2011
Dewiswyd fel un o elusennau Priodas Frenhinol y Tywysog William a Miss Catherine Middleton. Defnyddwyd y rhodd i gefnogi gofalwyr a gofalwyr ifanc yng Ngogledd Cymru.
2012
Mae gryn ddathlu wrth i'r sefydliad nodi rhoi gwerth £10 miliwn mewn grantiau.
2014
Dr Dewi Davies yn rhoi miliwn o bunnoedd, y cyntaf i wneud hynny, ac yn cefnogi cyrff a grwpiau ardal Gogledd Orllewin Sir Gaerfyrddin a De Ceredigion. Roedd Dr Davies eisiau rhoi nol i'w gymuned lleol ble'i magwyd, gan gefnogi pobl ifanc, yr hen a rhai dan anfantais yn yr ardal wledig hon.
2015
Mae swm cronfeydd gwaddol y sefydliad yn cyrraedd £10m.
2018
Mae'r sefydliad bellach wedi rhoi gwerth £25 miliwn mewn grantiau. Mae'n grantiau yn cefnogi pum thema - addysg a phobl ifanc, cymunedau, iechyd, celfyddyd a'r amgylchedd.