Llogi ystafell

Yng nghanol dinas Caerdydd, dim ond taith gerdded fer o orsaf reilffordd Heol y Frenhines a Cathays, Caerdydd, mae gan Sefydliad Cymunedol Cymru ystafell newydd ei hadnewyddu y gallwch chi ei llogi ar gyfer eich diwrnod hyfforddi, cyfarfod, seminar neu gyflwyniad.

Mae’r ystafell yn gwbl hygyrch gyda lle i hyd at 16 o bobl. Mae ar gael i’w llogi o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.

Mae’r adnoddau’n cynnwys:

  • Wi-Fi am ddim
  • Te, coffi a dŵr ar gael
  • Siartiau troi a phinnau
  • Teledu gyda sgrin gyflwyno fawr
  • Gliniadur ar gael
  • Taflunydd

Cyfraddau llogi ystafell:

  • Hanner diwrnod – £75 gan gynnwys TAW
  • Diwrnod llawn – £150 gan gynnwys TAW

I logi’r ystafell ffoniwch 02920 375 580 neu e-bostiwch info@communityfoundationwales.org.uk gyda’ch gofynion.

Cliciwch yma i lawrlwytho canllaw ar sut i ddod o hyd i ni.

 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn archebu ein hystafell?

Llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi: