Dod yn ymddiriedolwr

Mae Sefydliad Cymunedol Cymru yn ysbrydoli pobl i roi, yn helpu cymunedau Cymru i ffynnu a newid bywydau gyda’i gilydd.

Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr sy’n angerddol am gefnogi elusennau llawr gwlad a grwpiau cymunedol gyda chyllid i gryfhau cymunedau ledled Cymru. Dylai ymgeiswyr ddod ag egni, brwdfrydedd ac ymrwymiad fydd yn help i dyfu effaith a phroffil y Sefydliad.

Mae’n bwysig bod ein Bwrdd yn adlewyrchu’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw, ac rydym yn gwybod y bydd cynyddu amrywiaeth ein hymddiredolwyr yn ein helpu i gyrraedd a chefnogi mwy o bobl. Credwn y bydd adeiladu tîm o bobl sydd â phrofiadau byw amrywiol yn dod â safbwyntiau amrywiol a sgiliau newydd a all ein helpu i gefnogi cymunedau Cymru yn well.

Dod yn ymddiriedolwr

Rydym yn annog ceisiadau gan unrhyw un sydd eisiau helpu i gefnogi cymunedau Cymru, gan gynnwys pobl o bob oed, cefndir ethnig a phobl anabl, er mwyn cynnal yr amrywiaeth ar y Bwrdd.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn derbyn ceisiadau gan bobl sydd â phrofiad o’r trydydd sector yng Nghymru, rhoi dyngarol a gwneud grantiau.

Nid yw profiad blaenorol o waith Bwrdd yn hanfodol gan y bydd proses sefydlu lawn a hyfforddiant a chefnogaeth bellach.

Mae ein hymddiriedolwyr yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi gwaith Sefydliad Cymunedol Cymru drwy oruchwylio rheolaeth a gweinyddiaeth gyffredinol yr elusen. Maent hefyd yn sicrhau bod gan Sefydliad Cymunedol Cymru strategaeth glir a bod ein gwaith a’n nodau yn cyd-fynd â’n gweledigaeth. Yr un mor bwysig, maent yn cefnogi ac yn herio’r uwch dîm rheoli i alluogi Sefydliad Cymunedol Cymru i dyfu a ffynnu.

Os oes ganoch chi ddiddordeb ac eisiau gwybod mwy, cysylltwch â ebost yrru eich CV a nodyn byr i nodi’r hyn yr allwch chi gynnig i waith Sefydliad Cymunedol Cymru i info@communityfoundationwales.org.uk