Cefnogi talent gerddorol Gymreig
Mae Hannah Lowri Roberts yn berfformiwr fiola o Gymru sydd wedi’i lleoli yn Llundain.
Yn 2021, derbyniodd hi fwrsariaeth Cronfa Ddyngarwch Cymru yn Llundain a alluogodd iddi astudio’r fiola ar gwrs meistr y Artistiaeth Gerddorfaol yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall. Roedd cysylltiad y cwrs â Cherddorfa Symffoni Llundain (LSO) yn cynnig cyfleoedd amhrisiadwy.
“Roedd yn anrhydedd enfawr gallu gweithio ochr yn ochr â Cherddorfa Symffoni Llundain a chael mewnwelediad i’r byd proffesiynol, yn gerddorol ac yn gymdeithasol,” meddai. Roedd safon yr addysg a gafodd yn Ysgol y Guildhall yn ei galluogi i sefydlu carreg gamu o fod yn fyfyriwr i ddechrau ei gyrfa broffesiynol ym myd cerddoriaeth.
Ers graddio yn 2023, mae Hannah wedi mwynhau gwaith llawrydd gyda cherddorfeydd gwahanol ar draws y DU. Mae hi wedi perfformio gyda Cherddorfa Symffoni’r BBC, London Philharmonic Orchestra, London Symphony Orchestra, City of Birmingham Symphony Orchestra, Bournemouth Symphony Orchestra, Welsh National Opera a Sinfonia Cymru.
Mae ei llwyddiannau nodedig diweddar yn ei gyrfa gerddorol yn cynnwys ennill Gwobr yr Offerynnwr Ifanc yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen yn 2022, ennill gwobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Unawd Llinynnol yr Eisteddfod Genedlaethol, 19+ oed, ac ei chyngerdd cyntaf yn perfformio Concerto Martinu Viola gyda Cherddorfa Ieuenctid Caerdydd yn 2022.
Mae ei threftadaeth Gymreig yn parhau i fod yn ganolog i’w hunaniaeth fel cerddor.
“Mae’n fraint gallu perfformio’n rheolaidd yng Nghymru a chynnal cysylltiad gyda lle dechreuodd fy nhaith gerddorol,” meddai. “Rwy’n gerddor balch o Gymru, felly mae’n arbennig iawn i mi allu dychwelyd adref a rhannu creu cerddoriaeth gydag eraill.”
Wrth siarad am effaith Cronfa Dyngarwch Cymru yn Llundain, mae Hannah yn mynegi ei diolchgarwch:
“Heb eu bwrsariaeth hael, ni fyddai astudio yn Ysgol y Guildhall wedi bod yn bosibl, felly byddaf yn ddiolchgar am byth.”