Buddsoddi mewn chwaraeon cymunedol
“Mae’r wiced artiffisial newydd wedi bod yn fendith i’r chwaraewyr iau a grwpiau defnyddwyr eraill sy’n chwarae yng Nghlwb Criced Casnewydd.”
Mae Clwb Criced Casnewydd yn darparu rhaglenni hyfforddi criced o ansawdd uchel i blant ac oedolion ifanc. Dyfarnwyd £2,000 i’r clwb i brynu wiced criced artiffisial er mwyn helpu i ateb y galw uchel ar y tir criced.
Ar hyn o bryd, mae Clwb Criced Casnewydd yn rhedeg wyth tîm o Fechgyn Iau a thri thîm o Ferched Iau, gyda’r oedrannau yn amrywio o dimau o dan 9 oed i dimau o dan 17 oed, gan ddarparu criced i 175 o blant drwy’r haf. Gyda chymaint o gemau bob wythnos, penderfynodd y clwb i osod wiced criced artiffisial er mwyn helpu i ymdopi â’r galw a darparu cyfleuster fel y gellir chwarae criced ym mhob tywydd.
Mae’r grant wedi galluogi’r clwb i brynu a gosod cae artiffisial, gan ddarparu arwyneb y gellir chwarae arno ym mhob tywydd sy’n golygu bod llai o gemau yn cael eu canslo a mwy o griced yn cael ei chwarae.
Mae’r wiced criced artiffisial newydd wedi cael ei ddefnyddio i ddatblygu cydberthnasau â thri thîm Criced Asiaidd ac mae’r timau hyn (Newport Asians, Maindee a Newport Tigers) bellach yn cymryd rhan yng Nghynghrair Criced Canol Wythnos Casnewydd a’r Cylch. Mae hefyd wedi rhoi cyfle i gyflwyno plant mewn ysgolion lleol (Ysgol Gynradd St Andrews ac Ysgol Gynradd Maindee) i’r gamp.
Yn ddiweddar, dewisodd Criced Cymru Glwb Criced Casnewydd fel Canolfan Criced i Bobl Anabl er mwyn darparu ar gyfer Criced i Bobl Anabl, felly mae’r wiced artiffisial wedi bod yn hollbwysig i ddarparu man diogel i ddefnyddwyr anabl ymarfer criced.