Cronfa Addysg Caerdydd a’r Fro
Bro Morgannwg, Dinas Caerdydd, a I gyd
Mae’r rhaglen yma ar gau i geisiadau
Cronfa Waddol Cymunedol Caerdydd
Mae Cronfa Waddol Gymunedol Caerdydd yn ymbarél o gyllid a rhoddion sydd â’r nod penodol o wella addysg ac atgyfnerthu cymunedau yng Nghaerdydd. Nod y gronfa yw darparu bwrsariaethau i unigolion sydd eu hangen e.e. ar gyfer ffioedd cwrs (lle nad oes cymorth arall ar gael) a grantiau tuag at gostau deunyddiau’r cwrs a gweithgareddau. Dylai ceisiadau fodloni o leiaf un o’r blaenoriaethau canlynol:
- Cyrhaeddiad addysgol sy’n cynnwys dysgu gydol oes
- Cymorth ar gyfer unigol talentog ar ffurf ysgoloriaethau, deunyddiau addysgol neu adnoddau eraill
Y grantiau sydd ar gael
- Gall unigolion wneud cais am grantiau o hyd at £500 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd
Pwy all wneud cais?
Rhoddir blaenoriaeth i unigolion sy’n dilyn addysg bellach a fynychodd ysgol uwchradd yng Nghaerdydd neu sydd wedi byw yn ardal Awdurdod Lleol Caerdydd am o leiaf 5 mlynedd, ar yr amod nad yw’r mentrau’n dod o fewn darpariaeth statudol. Mae’n annhebygol y bydd y gronfa’n dyfarnu grantiau pellach i unigolion sydd wedi derbyn cefnogaeth o’r Gronfa hon o’r blaen.
Cronfa Caerdydd a Ysgolion y Fro
Nod Cronfa Ysgolion Caerdydd a’r Fro yw cefnogi’r canlynol:
- Prosiectau sy’n cefnogi datblygiad addysgol plant o’r blynyddoedd cynnar i 18 oed
- Prosiectau allgyrsiol mewn ysgolion sy’n cefnogi materion iechyd a byw’n iach
Y grantiau sydd ar gael
- Gall sefydliadau wneud cais am grantiau hyd at £2,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd
Pwy all wneud cais?
- Ysgolion yn ardaloedd Awdurdod Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg yn rhedeg prosiectau i hyrwyddo addysg sydd y tu allan i ddarpariaeth statudol. (E.e. clybiau ar ôl ysgol, clybiau brecwast, prosiectau garddio ac ati)
- Elusennau a grwpiau dielw sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n mynychu ysgolion yn ardaloedd Awdurdod Lleol Caerdydd a Bro Morgannwg ar gyfer prosiectau / gweithgareddau y tu hwnt i ddarpariaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol.
DS.Ar gyfer y ddwy gronfa, dylai ymgeiswyr ddangos yn union sut y byddant yn cwrdd ag amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, yn enwedig o ran angen ariannol a/neu gymdeithasol. Bydd cyllid yn cael ei flaenoriaethu i’r rheini a fyddai fel arall yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar addysg oherwydd incwm teulu isel neu anabledd ac ati. Bydd prosiectau sy’n gweithio mewn ardaloedd o amddifadedd uchel a / neu’n gweithio gyda disgyblion nad ydynt yn draddodiadol yn ymgysylltu ag addysg yn cael eu blaenoriaethu.
Yn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru. Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach. Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr adroddiad hwn i’n helpu i ffurfio y gronfa yma a dangos i grwpiau ein bod yn credu yn eu dibenion craidd a’n bod ni eisiau eu cefnogi i weithio’n fwy effeithiol yn eu cymunedau yn y tymor hirach.
Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael sicrwydd fod arian ar gael yn gallu rhoi’r hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect dros y tymor hir. Mae Cronfa Addysg Caerdydd a’r Fro yn cynnig cyfle i grwpiau ymgeisio am arian am sawl blwyddyn, hyd at dair blynedd, ond bydd hefyd yn dal ati i gynnig arian ar gyfer prosiectau un flwyddyn neu eitemau cyfalaf bychain.
Rydyn ni’n gobeithio gallu rhoi o leiaf un grant tair blynedd pob blwyddyn. I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. Bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried am gyllid blwyddyn os na fyddwch yn llwyddiannus gyda grant tair blynedd.
Sut i wneud cais?
Sicrhewch eich bod wedi darllen ac yn deall meini prawf y gronfa a’n safonau gofynnol cyn cwblhau eich cais

Ni faswn wedi gallu fforddio cost y cwrs dawns… ond mi orffenais efo’r radd uchaf erioed
Darllen mwyGwnewch yn siŵr eich bod yn gymwys
Darllenwch y testun canlynol i sicrhau eich bod yn gymwys cyn dechrau'ch cais: