Creu ymdeimlad o berthyn
“Mae wedi rhoi amser i mi gyda fy nheulu i wneud atgofion newydd a chael mynediad i lefydd nad ydyn ni erioed wedi bod iddyn nhw yn y pedair blynedd rydyn ni wedi bod yma.”
Mae UARE UK yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i helpu ceiswyr lloches a ffoaduriaid gan gynnig croeso, cefnogaeth a lle diogel.
Cawsant grant gan Gronfa Croeso Cenedl Noddfa i helpu ariannu nifer o fentrau newydd i groesawu a chefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ardal Wrecsam.
Yn ogystal â darparu cymorth ymarferol fel gwersi Saesneg, bwyd a dillad, mae eu hwb ‘Cartref’ newydd hefyd yn darparu lle i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ddod at ei gilydd dros fwyd a cherddoriaeth i leihau arwahanrwydd, helpu gydag integreiddio, dysgu am dreftadaeth ddiwylliannol ei gilydd a gwneud ffrindiau newydd mewn gofod diogel.
Sefydlwyd Cronfa No More Missing Out UARE UK i ddarparu cyfleon i blant teuluoedd sy’n ceisio lloches gael yr un profiadau â’u cyfoedion, gan eu helpu i ffitio i mewn a theimlo ymdeimlad o berthyn.
Mae eisoes wedi helpu ariannu teithiau i lan y môr, y sw a’r sinema i deuluoedd na fyddai fel arall yn cael cyfle i ymweld â’r llefydd hyn.
Mae sesiynau celf a chrefft rheolaidd hefyd wedi’u sefydlu i blant helpu ymdopi â’r trawma y maent wedi’i brofi ac i gefnogi eu lles emosiynol a’u hiechyd meddwl. Gan nad yw’r sesiynau hyn yn dibynnu ar iaith, maent yn gynhwysol ac wedi profi’n ffordd dda i blant ffoaduriaid a cheiswyr lloches sydd newydd gyrraedd i integreiddio a gwneud ffrindiau.
Mae’r gefnogaeth a’r cyfleoedd a ddarperir gan UKARE UK wedi helpu llawer o blant a’u teuluoedd i weithio trwy ychydig o’r trawma maen nhw wedi’i brofi, gan eu galluogi i wneud atgofion newydd ac adeiladu cysylltiadau newydd.
“Mae gennym ni le i ddod nawr i fod gyda phobl eraill ac i deimlo’n rhan o rywbeth. Rwy’n teimlo bod fy mhlant yn cael cefnogaeth ac mae pobl yn gofalu. Diolch am beth mae hyn wedi ei wneud i’n teulu.”