Lleihau unigrwydd yn y gymuned

Cronfa Buddsoddi Cymunedol Trivallis

“Mae pawb yn garedig a gofalgar ac mae’r bwyd yn ardderchog; mae’n neis ei gael wedi paratoi ar ein cyfer ni. Mae’n gwneud i ni deimlo’n well am ein hunain yn feddyliol. Byddem ar goll hebddo, ac mae’n rhywbeth i edrych ymlaen ato a mwynhau pob ymweliad.”

Yn cael ei adnabod fel ‘canolbwynt y gymuned’, mae Ffatri Teimlo’n Dda yn cynnig ystod enfawr o wasanaethau, yn arbennig ar gyfer trigolion hŷn lleol. Mae hefyd yn gartref i Strategaeth Adfywiad Cymunedol Bryncynon sy’n darparu ymgysylltiad cymdeithasol a chefnogaeth angenrheidiol iawn i denantiaid a thrigolion yr ardal, gan gynnwys y Prosiect Gwrando.

Mae’r Prosiect Gwrando, gwasanaeth cyfeillio a gwirfoddoli, yn cynnig gwasanaeth ffôn a wyneb yn wyneb i bobl hŷn yn y gymuned.

Rhoddwyd grant o £5,000 i Strategaeth Adfywiad Cymunedol Bryncynon gan Gronfa Buddsoddi Cymunedol Trivallis i’w galluogi i gynnal sesiynau te prynhawn rheolaidd ar gyfer preswylwyr hŷn a rhai ynysig.

Mae Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar unigrwydd unigolion bregus ac mae’r sesiynau te prynhawn wythnosol hyn wedi helpu i gael pobl allan o’u tai a galluogi trigolion lleol i ddal fyny gyda ffrindiau hen a newydd.

Roedd Jane Wilson, sylfaenydd grŵp cerdded 60+ lleol, yn defnyddio’r ganolfan yn rheolaidd fel man cyfarfod i’w grŵp 24 aelod, ond ers Covid-19 maen nhw wedi cael trafferth cael pawb allan o’u cartrefi.

“Rydyn ni wir yn gwerthfawrogi’r ffaith bod y ganolfan yma i’w defnyddio ar gyfer pob math o bethau. Dyma ein tro cyntaf yn y te prynhawn, mae’n gyfle delfrydol i bawb ddod yn ôl at ei gilydd eto, ac mae’n lleoliad canolog mor wych.”

Meddai Nina, Cydlynydd Prosiect Strategaeth Adfywiad Cymunedol Bryncynon:

“Mae Cronfa Buddsoddi Cymunedol y Trivallis wedi caniatáu i ni gynnal partïon te i geisio cael pobl allan o’u tai, gan fod llawer o fregusrwydd a phryder.
Rydyn ni’n ceisio bod fel teulu, ac i’r rhai na all ei wneud, rydyn ni’n danfon ein te prynhawn iddyn nhw. Dyma eu bywyd, maen nhw’n ei garu, ac maen nhw’n gobeithio y gallan nhw barhau i ddod.”

 

Stories

Meithrin Cysylltiadau a Chefnogi Teuluoedd

Meithrin Cysylltiadau a Chefnogi Teuluoedd

Cronfa i Gymru

Trawsnewid bywydau ifanc

Trawsnewid bywydau ifanc

Gronfa i Gymru

Ffermio ar gyfer iechyd meddwl a lles

Ffermio ar gyfer iechyd meddwl a lles

Cronfa Cenedlaethau'r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu'r Principality

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cysylltiad a chwmnïaeth i famau ifanc

Cronfa Cenedlaethau’r Dyfodol Cymdeithas Adeiladu’r Principality